Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pafiliwn y Grand Porthcawl i gael hwb ariannol gwerth £18 miliwn

Mae adeilad eiconig Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl wedi cael £18 miliwn o gyllid, diolch i gynnig llwyddiannus a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen i gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Bydd y cyllid yn cael ei dargedu ar waith ail-ddatblygu mawr ar yr adeilad Rhestredig Gradd II ym Mhorthcawl, a ddathlodd ei ben-blwydd yn 90 oed y llynedd. Defnyddir yr arian i fynd i’r afael â chyflwr strwythur concrid yr adeilad, gan amddiffyn ei dreftadaeth unigryw tra hefyd yn cwrdd ag anghenion a dyheadau’r gymuned o ran gwell gwasanaethau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth.

Roedd y cais am gyllid yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau modern yn cynnwys:

  • mannau newydd i gynnal digwyddiadau ar y llawr cyntaf (Promenâd)
  • mannau caffi a digwyddiadau ar y to newydd, sy'n cynnig golygfeydd godidog o'r môr ar draws Môr Hafren
  • theatr Stiwdio newydd a chyfleusterau ategol
  • rhagor o gyfleusterau llesiant, ac o ansawdd gwell, gan gynnwys cyfleuster lleoedd newid newydd
  • mannau gweithdy neu ddeori busnes ar lefel stryd
  • cyfleusterau swyddfa newydd
Lluniau gan arlunydd yn dangos sut allai Pafiliwn y Grand edrych ar ôl cwblhau’r trawsnewidiad gwerth £18 miliwn.

Rydym yn falch iawn i gael y cyllid sylweddol hwn i ailddatblygu Pafiliwn y Grand.

Mae’n wych bod yr adeilad wedi’i ddewis ar gyfer buddsoddi gan y Gronfa Ffyniant Bro. Mae wedi cael ei weld fel ased diwylliannol erioed gan y gymuned leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Mae’r cyllid hwn yn gynnyrch blynyddoedd lawer o gynllunio a gweithio mewn partneriaeth gyda’n cydweithwyr yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Byddwn nid yn unig mewn sefyllfa i wneud gwelliannau strwythurol mawr eu hangen i’r adeilad am flynyddoedd lawer i ddod, ond gallwn hefyd symud ymlaen â’n cynlluniau cyffrous i greu lleoliadau celfyddydol a diwylliannol hyd yn oed gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio

Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r cyngor ar y cynlluniau uchelgeisiol hyn ar gyfer Pafiliwn y Grand ers 2016, felly rwy’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i gael y cyllid i’w gweld yn dwyn ffrwyth.

Mae ailddatblygu Pafiliwn y Grand yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ni ddiogelu’r adeilad hwn ar gyfer blynyddoedd i ddod ac i sicrhau ei fod yn cadw ei safle fel y lleoliad celfyddydol a diwylliannol o ddewis yn y rhanbarth.

Ar ôl rheoli’r lleoliad ers dros saith mlynedd, rydym yn gwybod cymaint mae Pafiliwn y Grand yn ei olygu i bobl a grwpiau lleol, felly rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu â nhw wrth i’n cynlluniau ddatblygu.

Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen

Croesawodd Arweinydd y Cyngor, Huw David, y cyhoeddiad am y cyllid hefyd, ond nododd ei fod yn foment ‘chwerwfelys’ gan fod cynnig y cyngor i’r gronfa Ffyniant Bro ar gyfer datblygu Pont Ffordd Penprysg ym Mhencoed wedi bod yn aflwyddiannus.

Mae Pafiliwn y Grand yn adeilad nodedig ac rydym yn falch iawn bod y gronfa Ffyniant Bro wedi cydnabod ei bwysigrwydd, dim yn unig i breswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ond i ymwelwyr o bob cwr o Gymru a’r byd. Bydd yr arian yn helpu i ddiogelu dyfodol yr adeilad, ac yn sicrhau ei fod yn parhau wrth galon y gymuned.

Ar yr un pryd, mae cyhoeddiad heddiw’n chwerwfelys oherwydd bod ein hail gynnig i’r gronfa Ffyniant Bro oedd yn cynnwys cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Pont Ffordd Penprysg wedi cael ei wrthod. Mae hyn yn siom fawr, ac rwy’n siŵr y bydd pobl Pencoed yn teimlo’r un fath.

Arweinydd y Cyngor, Huw David

 

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, a ymwelodd â Phafiliwn y Grand yn ddiweddarach heddiw: 

Mae hwn yn fuddsoddiad arwyddocaol iawn mewn prosiectau wirioneddol arwyddocaol ledled Cymru. Rwy’n falch iawn i weld cymaint o gynigion llwyddiannus o bob cwr o’r wlad ar gyfer cynlluniau a fydd yn cael effaith ar genedlaethau i ddod.

Bydd y cyllid yn adfywio canol trefi ac adeiladau hanesyddol, yn creu llwybrau cerdded a beicio newydd trwy rhai o’n hardaloedd gwledig godidog, yn gwella cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr, yn darparu atebion trafnidiaeth i Gaerdydd ac yn cyfrannu at iechyd a chyfleoedd gwaith yn y dyfodol i bobl yn yr ardaloedd dan sylw.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddilyn cynnydd y prosiectau hyn wrth iddynt ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau o greu cyfleoedd i bawb ledled y DU a thyfu economi Cymru.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies

Chwilio A i Y