Newyddion am y gyllideb yn arwain at rybudd am wasanaethau'r cyngor
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 22 Rhagfyr 2023
Mae'r newyddion bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am gael cynnydd o 3 y cant yn eu cyllideb 2024-25 wedi arwain at yr awdurdod yn rhybuddio ei bod hi nawr yn amhosibl osgoi newidiadau sylweddol i rai gwasanaethau’r cyngor.
Gan fod y setliad yn is na chyfradd chwyddiant gyfredol y DU, sef 3.9 y cant, ac yn cynrychioli cynnydd mewn cyllid o £7.4m yn erbyn pwysau cyllideb y gwyddys amdanynt werth £28m, bydd angen i’r cyngor weithredu ar unwaith os ydyw am fodloni ei rwymedigaeth gyfreithiol o gyflawni cyllideb gwbl gytbwys ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau: “Am 13 mlynedd, mae cynghorau lleol wedi cael eu gorfodi i wneud toriadau ac arbedion oherwydd effaith y mesurau cyni, ynghyd â Brexit, y pandemig byd-eang, costau uwch, mwy o alw gan gwsmeriaid, a'r argyfwng costau byw.
“Mae biliau bwyd ac ynni ar gyfer adeiladau cyhoeddus, fel ysgolion a chanolfannau gofal dydd, wedi codi, mae nifer uwch o blant ac oedolion bregus bellach angen gofal a chefnogaeth hanfodol, ac mae’n rhaid i gynghorau fodloni’r gost ychwanegol o gynnydd mewn cyflogau a phensiynau ar gyfer athrawon a staff eraill.
“Yn yr un modd, mae costau deunyddiau i wneud gwaith, fel adeiladu ysgolion newydd neu gynnal a chadw’r seilwaith presennol fel y rhwydwaith priffyrdd, wedi cynyddu’n sylweddol. Ers mis Mawrth 2020, rydym wedi gweld cynnydd o 237 y cant yn y galw am lety dros dro i’r digartref.
“Mae’r cyfryngau cenedlaethol yn berwi o straeon yn rhybuddio bod y sefyllfa hon bellach wedi cyrraedd torbwynt, ac mae risg go iawn y bydd un ym mhob pum cyngor yn Lloegr a chwarter y cynghorau yn yr Alban yn wynebu methdalwriaeth dros y ddwy flynedd nesaf.
“Gall yr heriau hyn ddod i ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd. A ninnau eisoes wedi gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn preswylwyr lleol rhag dioddef o faich y toriadau dros y 13 mlynedd ddiwethaf, rydym nawr wedi cyrraedd sefyllfa lle nad yw hynny’n bosibl mwyach.
“Er y byddwn, wrth gwrs, yn sicrhau bod ein holl gyllid yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol ac effeithlon, dylem hefyd fod yn barod i wneud rhai penderfyniadau anodd iawn ac nad oes modd eu hosgoi cyn bod cyllideb derfynol y cyngor yn cael ei chytuno ar gyfer 2024-25.”
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: “Does dim ond angen i chi gymryd cipolwg ar benawdau’r newyddion i chi gael gwybod bod hon yn broblem genedlaethol, yn hytrach na mater lleol yn unig. Yn ôl ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cael bron i £800m yn llai o gyllid ar gyfer 2024-25 – sy’n gyfanswm o £1.5bn o golled mewn telerau go iawn ac ar ôl ystyried chwyddiant.
“Yn amlwg mae hyn yn newyddion drwg i lywodraeth leol. Fel cyngor, rydym yn darparu dros 800 o wasanaethau gwahanol, yn amrywio o addysg, gofal cymdeithasol i blant a phobl hŷn a chefnogi’r digartref, i weithredu prosiectau adfywio, ymgymryd â rhaglenni moderneiddio ysgolion a llawer, llawer mwy.
“Rydym eisoes yn wynebu pwysau ariannol enfawr ym meysydd fel Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol a Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, felly mae’n bwysig bod yn gwbl realistig ac wynebu’r ffaith y bydd angen gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn mewn perthynas â chyllideb y flwyddyn nesaf.
“Bydd rhaid i ni edrych yn fanwl iawn ar bob agwedd ar ein gwaith, gan gynnwys lefel ac amlder pob gwasanaeth, a phennu a oes angen gwneud newidiadau ai peidio.
“Dyna pam eleni, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae angen i breswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gymryd rhan yn ein hymgynghoriad sydd ar y gweill yn ymwneud â’r gyllideb, a dweud wrthym lle dylid blaenoriaethu ein hadnoddau yn eu barn nhw.
“Bydd manylion ynghylch sut allwch chi fynd ati i wneud hyn yn cael eu cyhoeddi yn fuan yn y flwyddyn newydd, ond yn y cyfamser, mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar dudalen ‘Egluro Heriau Cyllidebol y Cyngor’ drwy fynd i www.bridgend.gov.uk.”