Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Neuadd y Dref Maesteg ar fin ailagor ar ôl gwaith adnewyddu sylweddol

Disgwylir i Neuadd y Dref Maesteg ailagor yn ddiweddarach eleni, wrth i'r prosiect ailddatblygu gwerth miliynau o bunnoedd, a ddarparwyd gan y cyngor a’i bartneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, nesáu at gael ei gwblhau.

Mae'r adeilad rhestredig Gradd II, a fydd yn cael ei adfer fel lleoliad celfyddydau a diwylliannol ar gyfer y dref a chymuned ehangach Cwm Llynfi, yn nesáu tuag at gamau olaf ei waith adnewyddu sylweddol.

Bydd cwblhau'r gwaith yn arwain at yr adeilad yn dychwelyd i’w fawredd blaenorol, gyda nodweddion ychwanegol, gan gynnwys atriwm gwydr, llyfrgell a chanolfan dreftadaeth newydd. Bydd gofod theatr stiwdio a sinema hefyd ar gael, ynghyd â chaffi a bar mesanîn.

Mae’r prif awditoriwm wedi cael ei adnewyddu’n llawn i fod yn lleoliad celfyddydau perfformio aml-swyddogaethol unwaith eto, ac mae hyn yn cynnwys lifft llwyfan, ystafelloedd gwisgo a bar. Mae'r balconi hefyd wedi cael ei gynnal a'i adnewyddu.

Mae atriwm gwydr modern a chyntedd yn wynebu Stryd Talbot yn cysylltu dwy ardal yr adeilad. Mae mynediad i bobl anabl hefyd wedi gwella drwy ddarparu lifft.

Mae gwarchod nodweddion treftadaeth bensaernïol yr adeilad, fel y colofnau, cornisiau, teils a’r pyrth bwaog brics wedi bod yn rhan allweddol o’r prosiect. Mae paentiadau hanesyddol gan Christopher Williams hefyd wedi cael eu hadfer a byddant yn cael eu harddangos yn y brif neuadd.

Yn fuan, bydd y cyhoedd yn gallu ymweld â’r cyfleusterau newydd, gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn gweithio ar raglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer nes ymlaen eleni.

Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi y bydd yr adeilad eiconig hwn yn ailagor yn ddiweddarach eleni, rhywbeth y bu mawr edrych ymlaen ato. Mae gwaith gorffen yn mynd rhagddo’n dda, gyda'r holl brif waith strwythurol wedi’i gwblhau.

Gwn y bydd pobl yn rhyfeddu at drawsnewidiad yr adeilad eiconig hwn - sydd wedi bod drwy broses adnewyddu drylwyr a manwl, ynghyd â gwelliannau modern i sicrhau ei hirhoedledd a’i addasrwydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae'r cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y prosiect adnewyddu trawiadol hwn yn realiti erbyn hyn ac mae’n destun cyffro gwybod y bydd yr adeilad yn agor ei ddrysau i groesawu’r gymuned unwaith eto yn fuan, er mwyn i bobl o bob oedran a gallu ei fwynhau.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai:

Ategodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Mae’n destun cyffro mawr i ni ein bod yn cyrraedd y pen draw - gallwch fod yn sicr y bydd y canlyniad werth yr aros! Rydym wedi gweithio’n agos gyda chydweithwyr a chontractwyr y cyngor i ddarparu lleoliad y gall cymuned Cwm Llynfi fod yn falch o’i berchnogi, ac rydym wedi sicrhau y bydd y crefftwaith o ansawdd uchel ar bob cam o’r ailddatblygu yn diogelu dyfodol y lleoliad hwn am ddegawdau i ddod. Byddwn yn cyhoeddi manylion ein rhaglen ailagor yn fuan iawn ac edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl!”

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru yn cynnwys CADW, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Cyngor Tref Maesteg, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Davies ac Ymddiriedolaeth Pilgrim.

Chwilio A i Y