Myfyrwyr Ysgol Gyfun Porthcawl yn perfformio yn y Theatr Genedlaethol yn Llundain
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 19 Mehefin 2024
Yn ddiweddarach yn y mis, bydd myfyrwyr o Ysgol Gyfun Porthcawl yn perfformio mewn drama a gaiff ei chyfarwyddo gan Wil Morgans, disgybl Blwyddyn 12, yn y Theatr Genedlaethol yn Llundain.
Gan gamu ar lwyfan y Theatr Genedlaethol fel y gwnaeth y Fonesig Helen Mirren, Benedict Cumberbatch, Syr Ian McKellen ac actorion enwog eraill, cafodd y myfyrwyr eu dewis o blith cwmnïau ieuenctid ledled y DU i berfformio yn y theatr, gyda’u dehongliad o Orchestra, sef drama a ysgrifennwyd gan Charlie Josephine.
Mae’r anrhydedd hwn yn rhan o Ŵyl Cysylltiadau’r Theatr Genedlaethol, sef gŵyl theatr ieuenctid genedlaethol a gynhelir yn flynyddol ers 29 mlynedd i hyrwyddo doniau pobl ifanc.
Bob blwyddyn, comisiynir deg o ddramâu newydd ar gyfer pobl ifanc, gan uno rhai o awduron mwyaf arloesol y DU gyda doniau theatrig y dyfodol. Mae’r cwmnïau ieuenctid yn dewis un ddrama o blith y deg i’w dehongli a’i pherfformio, ac ar ôl cynnal cyfres o berfformiadau, dewisir un grŵp i berfformio pob drama yn y Theatr Genedlaethol.
Mae Orchestra gan Charlie Josephine, a gaiff ei pherfformio gan Ysgol Gyfun Porthcawl, yn un ddrama o blith y deg a gynhwysir yn rhaglen Cysylltiadau 2024. Mae Charlie, actor ac awdur sy’n danbaid dros “greu celfyddyd onest, chwyslyd ac o’r galon”, wedi creu nifer o weithiau uchel eu bri, yn cynnwys y ddrama I, Joan a gafodd gryn ganmoliaeth ar ôl ei pherfformiad cyntaf yn Theatr y Glôb Shakespeare yn ystod haf 2022, yn ogystal â dramâu gwobrwyol diweddarach eraill, fel Blush.
Mae Orchestra yn canolbwyntio ar gerddorfa ieuenctid sy’n ymarfer ar gyfer cyngerdd yn ystod gwyliau’r hanner tymor – gan gynnig cefndir i archwilio’r cymhlethdodau sy’n perthyn i gydberthnasau, dosbarth a phris posibl llwyddiant.
Pan ofynnwyd i Wil Morgans beth oedd ei farn ynglŷn â’r ddrama, dyma a ddywedodd: “Ar ôl darllen y ddrama, teimlais gysylltiad â hi yn syth. Gwyddwn y byddai’r ddrama yn anodd yn emosiynol, a hithau’n cynnwys themâu fel dosbarth, y pwysau sydd ar bobl ifanc a’r straen a all ddeillio o’r safonau uchel a osodwn i ni ein hunain.
“I ni, sy’n dod o ysgol gyfun yng Nghymru, mae’r cyfle i lwyfannu a pherfformio Orchestra yn y Theatr Genedlaethol yn gyfle unwaith mewn oes. Mae’r holl brofiad wedi bod yn bleser pur nad oedd yr un ohonom yn ei ddisgwyl. Mae Cysylltiadau wedi ein galluogi i brofi agwedd ar theatr ac ysgrifennu avant-garde y mae pob un ohonom wedi syrthio mewn cariad â hi.”
Dyma a ddywedodd Poppy Shears, sy’n chwarae rhan un o’r prif gymeriadau: “Mae’r cyfle hwn wedi bod yn anhygoel i’n hysgol. Ac mae’r ffaith ein bod yn dod o dref fechan yng Nghymru yn golygu bod ein début ar lwyfan Llundain yn brofiad hynod o swreal a chyffrous!”
Medd Kirsten Adam, Pennaeth Rhaglenni Pobl Ifanc yn y Theatr Genedlaethol: “Rydym mor gyffrous bod Ysgol Gyfun Porthcawl yn ymuno â ni ar gyfer yr Ŵyl Cysylltiadau eleni, a gynhelir ddiwedd y mis. Mae Gŵyl Cysylltiadau’r Theatr Genedlaethol yn hyrwyddo doniau pobl ifanc ledled y DU ac mae’n gyfle gwych iddyn nhw feithrin sgiliau newydd a mynegi eu creadigrwydd. Rydym ar dân eisiau gweld dychymyg a chreadigrwydd Ysgol Gyfun Porthcawl ar Lwyfan Dorfman.”
Bydd Orchestra yn cael ei pherfformio ddydd Mawrth 25 Mehefin ac mae Charlie Josephine yn “edrych ymlaen yn fawr at wylio’r ddrama a chyfarfod â’r myfyrwyr wedyn.”
Yn sgil llwyddiant y myfyrwyr, dyma a ddywedodd Kelly Poole, Pennaeth Drama yn Ysgol Gyfun Porthcawl: “Braint fawr yw gweld y disgyblion yn llwyddo mor dda yn eu perfformiad. Bydd dathlu eu llwyddiant yn ystod eu perfformiad yn y Theatr Genedlaethol yn gyfle unwaith mewn oes – profiad bythgofiadwy.”
Yn ôl Mike Stephens, Pennaeth yr ysgol: “Mae pawb yn Ysgol Gyfun Porthcawl yn falch iawn o’r hyn y mae ein myfyrwyr wedi’i gyflawni. Mae’r cyfle i gyfarwyddo a pherfformio yn y Theatr Genedlaethol yn wobr gwbl haeddiannol i’r criw talentog hwn o fyfyrwyr. Maen nhw’n fodelau rôl ar gyfer llwyddiant ym mhob ffordd! Mae ein cynhyrchiad yn gynhyrchiad ar y cyd a gafodd ei arwain a’i gydgysylltu gan ein myfyrwyr. Gyda Wil Morgans, un o’n myfyrwyr Blwyddyn 12, yn ysgogi ac yn cyfarwyddo, bydd y perfformiad hwn yn eithriadol – rydw i’n bennaeth balch iawn!”
Medd Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg, y Blynyddoedd Cynnar a Phobl Ifanc): “Dyma lwyddiant cwbl anhygoel ac artistig! Dylid canmol yr holl staff am ganiatáu i’r dysgwyr gymryd rhan yn y cyfle hwn, a dylid llongyfarch y disgyblion am eu cymhelliant, eu gwaith caled a’u hymrwymiad, heb sôn am eu creadigrwydd – rhywbeth sydd wedi eu harwain yr holl ffordd i Lundain! Rydym yn eithriadol o falch o bob un ohonoch ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn serennu ar lwyfan y Theatr Genedlaethol!”
Lluniau: Myfyrwyr Ysgol Gyfun Porthcawl yn perfformio Orchestra, a phoster Orchestra ar gyfer Gŵyl Cysylltiadau’r Theatr Genedlaethol.