Mwynhewch yr arfordir, byddwch yn ddiogel a helpwch gadw traethau'n lân yr haf hwn
Poster information
Posted on: Dydd Iau 27 Mehefin 2024
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio ochr yn ochr â llu o bartneriaid er mwyn sicrhau bod preswylwyr, twristiaid ac ymwelwyr yn gallu mwynhau arfordir Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yr haf hwn.
Mae sefydliadau megis y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Bad Achub (RNLI), National Coastwatch, Achubwyr Bywyd Porthcawl, Cyngor Tref Porthcawl, Surfers Against Sewage, Cadwch Gymru'n Daclus a grwpiau gwirfoddol yn y gymuned i gyd yn chwarae rhan bwysig yn cadw pobl yn ddiogel, neu'n gwneud yn siŵr bod ardal glan-môr, traethau a baeau Porthcawl yn cadw'n lân ac yn ddymunol i ymweld â hwy.
O 29 Mehefin, bydd patrolau achubwyr bywyd yn digwydd rhwng 10am-6pm ym Mae Rest, Traeth Coney, Sandy Bay a Bae Trecco, felly cofiwch nofio a chorff-fyrddio rhwng baneri coch a melyn, a syrffio neu ddefnyddio caiacau a byrddau padlo rhwng baneri du a gwyn.
Mae'n bosib defnyddio beiciau dŵr megis Jetscis yn ardal Bae Newton, ond byddwch yn ymwybodol o eraill sy'n defnyddio'r dŵr.
Dylai unrhyw un sy'n mynd i drafferthion wrth nofio orwedd ar eu cefn mewn siâp 'Arnofio i Oroesi', ymlacio, a cheisio peidio ag ymladd yn erbyn y dŵr.
Os ydych chi'n gweld nofiwr mewn trafferthion, ffoniwch 999 neu 112 mewn achos argyfwng a gofynnwch am Wyliwr y Glannau - mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan RNLI.
Mae pethau i'w hosgoi yn cynnwys nofio ar draws sianel fynediad Marina Porthcawl, a phlymio neu neidio o'r morglawdd eiconig gan y gall dyfnder y dŵr amrywio yn dibynnu ar y llanw.
Mae croeso i gŵn ar hyd y flwyddyn ar Draeth Newton, Pink Bay a Thraeth y Sger, ond ni chaniateir cŵn ym Mae Rest, Traeth y Dref, Traeth Coney a Bae Trecco rhwng 1 Mai a 30 Medi. Cofiwch roi baw ci mewn bag pwrpasol, a'i waredu mewn ffordd gyfrifol.
Caiff ymwelwyr i draethau a baeau Porthcawl eu hannog i godi sbwriel hefyd ac i feddwl ddwywaith cyn tanio barbeciw tafladwy gan y gall y rhain barhau i fod yn boeth am sawl awr wedi eu defnyddio. Defnyddiwch ddŵr y môr i oeri'r glo, gosodwch y badell a'i chynnwys mewn bag addas, a gwaredwch â'r barbeciw yn ofalus gartref neu mewn bin sbwriel.
Ni ddylai glo poeth gael ei gladdu o dan dywod na'i wagio ar greigiau ar unrhyw gyfrif, gan fod y ddau wedi achosi anafiadau difrifol i blant yn y gorffennol. Ni ddylai barbeciws sydd wedi'u defnyddio gael eu gadael ar y traeth gan y gall y llanw wahanu'r gril o'r hambwrdd ffoil, a gall achosi anafiadau difrifol oherwydd yr ymylon danheddog.
Gyda'i olygfeydd godidog ac amodau gwych ar gyfer syrffio, mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig rhai o'r traethau a baeau gorau yn ne Cymru ac mae'n parhau i fod yn gyrchfan ymwelwyr poblogaidd, yn arbennig felly yn ystod misoedd yr haf.
Mae nifer o sefydliadau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau y gall pawb fwynhau eu tro i'r traeth, ac rydym yn croesawu pob ymwelydd sy'n ymddwyn yn gyfrifol, gan gadw'n ddiogel, ac sydd naill ai'n gwaredu eu sbwriel yn y biniau, neu'n mynd ag ef gartref gyda nhw.
Dywedodd Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau