Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mwy o gyfleoedd ar gael i ddatblygu gyrfa mewn gofal cymdeithasol

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y cwrs ‘Llwybrau i Ofal’ a gynhaliwyd ym mis Mai, mae timau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Chyflogadwyedd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig ail rownd o gyfleoedd recriwtio i bobl sy’n awyddus i fynd i’r maes gofal cymdeithasol.

Bydd y cyfle unigryw hwn i gael hyfforddiant achrededig am ddim, yn cael ei gynnal am wythnos, gan ddechrau ar 14 Hydref 2024, 9.30am tan 3pm. Bydd y cwrs, a gynhelir yng Nghanolfan Fywyd Halo, Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnig cyfres o weithdai llawn gwybodaeth, cyfle i gwrdd ag aelodau’r tîm a’r unigolion maent yn eu cynorthwyo, ochr yn ochr â’r cyfle i ennill dealltwriaeth fanwl o’r disgwyliadau a rôl gweithiwr gofal cymdeithasol.

Nid yn unig y bydd cyfranogwyr sy’n cwblhau’r cwrs byr yn llwyddiannus yn derbyn achrediad am ddim ond byddent hefyd yn cael cynnig y cyfle i ymarfer technegau cyfweliad a chymorth wrth ddechrau cyflogaeth yn syth fel gweithiwr gofal cymdeithasol awdurdod lleol.

Mae ein cwrs llwybr i ofal yn gyfle gwych i unrhyw un sy’n frwdfrydig dros helpu a chynorthwyo eraill i gael cyflogaeth ystyrlon.

Mae wedi’i anelu at y rheiny sydd ag ychydig neu ddim profiad mewn gofal cymdeithasol, ond sydd ag agwedd bositif tuag at gynorthwyo eraill.

Roeddem wrth ein bodd bod 17 o bobl wedi cofrestru ar gyfer y cwrs blaenorol yn gynharach eleni, ac o ganlyniad apwyntiwyd pum unigolyn sydd bellach mewn cyflogaeth barhaol gyda’r cyngor.

Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Lles y cyngor, y Cynghorydd Jane Gebbie

Dywedodd Claire Evans, a fynychodd y cwrs cyntaf, ac sy’n gweithio yn un o gartrefi preswyl yr awdurdod: “Roeddwn wedi gweithio mewn archfarchnad fawr am ddeuddeg mlynedd cyn cymryd amser o’r gwaith i ofalu am fy nheulu. Roeddwn yn gwybod bod fy rôl flaenorol wedi rhoi sgiliau defnyddiol a throsglwyddadwy imi. 

“Er fy mod yn amheus ar y dechrau, fe gefais gyngor positif ac anogaeth i fynychu’r cwrs gan Gyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, ac rwyf mor falch erbyn hyn fy mod wedi cofrestru!

“Roedd y cwrs yn ysbrydoledig ac o ganlyniad, rwyf wedi gwneud penderfyniad sydd wedi newid fy mywyd i weithio yn y diwydiant cymorth gofal.” 

Ychwanegodd Claire ei bod yn “wirioneddol fwynhau” ei rôl newydd, gan ddysgu am agweddu amrywiol y swydd, a gweithio gyda’r preswylwyr, a dod i’w hadnabod.

Am ragor o wybodaeth am y cwrs arfaethedig, cysylltwch â thîm Cyflogadwyedd y cyngor ar 01656 815317, e-bost: employability@bridgend.gov.uk neu llenwch y ffurflen gyfeirio ar wefan y cyngor.

Chwilio A i Y