Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Murlun newydd Maesteg yn datgelu gorffennol lliwgar y dref

Mae wal ochr allanol Bar Pysgod a Sglodion y Blue Pearl yn nhref Maesteg wedi syfrdanu preswylwyr yn stond ers iddi ddechrau cael ei defnyddio fel cynfas ar gyfer murlun bywiog, sy'n ymroddedig i amlygu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y dref a'r ardaloedd cyfagos.

Wedi'i drefnu a'i ariannu gan Gyngor Tref Maesteg, mae gwaith celf trawiadol Lloyd Roberts, 'Lloyd the Graffiti', yn datgelu nodweddion eiconig gorffennol y dref yn y cwm glofaol.  Mae tref Maesteg, ble ganwyd JJ Williams, a lle bu'r glöwr Cymreig cyntaf i ddod yn Aelod Seneddol ac yn Aelod o’r Cabinet, Vernon Hartshorn OBE, yn gweithredu fel asiant i lowyr ym 1905, yn ymfalchïo mewn gorffennol sydd wedi’i atalnodi gyda digwyddiadau a phobl o bwys.

Yn ogystal â'r ddau ffigwr enwog uchod, mae'r gwaith celf hefyd yn cynnwys darluniau o Waith Haearn Llynfi, hen ffatri Revlon, yn ogystal â'r pyllau glo a oedd unwaith yn rhan annatod o fywyd y dref – pob un ohonynt yn biler o gyflogaeth yn yr ardal ar wahanol adegau.  Hefyd yn cael sylw mae Ysbyty Cymunedol Maesteg, a adeiladwyd i raddau helaeth gan ddefnyddio'r arian a ddarparwyd gan drigolion Cwm Llynfi a'i glowyr balch, yn ogystal â geiriau o anthem genedlaethol Cymru, Hen Wlad Fy Nhadau, a berfformiwyd am y tro cyntaf ym Maesteg yng Nghapel Tabor ym 1856. 

Dywedodd un o Gynghorwyr Tref Maesteg, Matthew Rowlands: "Mae'r gwaith celf yn ychwanegiad cadarnhaol a diddorol iawn i'r dref.  Rydyn ni wedi cael ymateb anhygoel ar y cyfryngau cymdeithasol a chan bobl sy'n mynd trwy ganol y dref, ac yn ei weld yn dod at ei gilydd. Diolch yn fawr i Gyngor Tref Maesteg am ariannu'r prosiect a Bar Pysgod a Sglodion y Blue Pearl am gytuno i’w wal gael ei defnyddio."

Ychwanegodd Maer Maesteg a’r Cynghorydd Tref, Chris Davies: "Mae'r murlun graffiti yn nodwedd newydd wych ym Maesteg ac mae’r cyngor tref yn edrych ymlaen at brosiectau eraill yn y dyfodol."

Mae dau brosiect ar y gweill, y naill o’r enw 'Pileri'r Gymuned', a fwriedir ar gyfer maes parcio Ffordd Llynfi, a’r llall 'Croeso i Faesteg', gyda'r lleoliad eto i'w gadarnhau.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Davies, yr Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd: "Am ffordd wych o ddathlu hanes lliwgar tref Maesteg a'r ardaloedd cyfagos.

"Mae gennym ymdeimlad cryf o gymuned a balchder ym Maesteg, gyda'r murlun yn ein hatgoffa o'r ffigurau a'r digwyddiadau amlwg sydd wedi helpu i lunio'r ardal. 

"Mae'r gwaith celf yn annog sgwrs, yn enwedig rhwng y genhedlaeth hŷn ac iau, am yr hanes diddorol a phwysig sydd gan Faesteg, gan gau'r bwlch rhwng y gorffennol a'r presennol.

"Da iawn i bawb sy'n cymryd rhan ac rwy'n edrych ymlaen at y gwaith celf yn y dyfodol a'r effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael."

Chwilio A i Y