Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Metrolink newydd Porthcawl yn barod i agor

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau y bydd Metrolink newydd Porthcawl yn agor ei ddrysau ddydd Llun 18 Tachwedd 2024.

Wedi ei leoli yng nghanol yr ardal adfywio ar hyd Portway a'r Llyn Halen, bydd y Metrolink yn ffurfio rhan o'r rhaglen Metro Plus ehangach, sy'n ceisio gwella cysylltiadau cludiant cyhoeddus ar draws de-ddwyrain Cymru.

Bydd yn cael ei ddefnyddio gan yr holl wasanaethau bws sydd ar hyn o bryd yn gweithredu o fewn Porthcawl, gan gynnwys:

  • Gwasanaeth First Cymru X2 rhwng Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd (dydd Llun i ddydd Sul).
  • Gwasanaeth First Cymru 63 rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl (dydd Llun i ddydd Sul).
  • Gwasanaeth Peyton Travel 861 i Danygraig (dydd Llun i ddydd Gwener).
  • Y gwasanaeth Stagecoach in South Wales 172 o Borthcawl i Aberdâr (dyddiau Sul yn unig).

Bydd bysus hefyd yn parhau i weithredu drwy Stryd John ac eithrio'r gwasanaeth X2 a'r gwasanaeth 63 allan i Ben-y-bont ar Ogwr.

Gyda'r gallu i ddarparu hyd at bedwar bws ar unwaith, bydd y Metrolink yn cynnwys caban aros dan do ac adeilad gorsaf, lle ar gyfer ciosg, mannau eistedd yn yr awyr agored, to 'gwyrdd' ystyrlon o’r amgylchedd, a gardd law a mwy.

Mae'r cyfleuster newydd wedi cael ei adeiladu gydag arian y Fargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth y DU yn ogystal â chyllideb Adfywio Porthcawl y cyngor ei hun, ac mae wedi'i gynllunio gyda'r bwriad o fod yn rhan bwysig o gynllun adfywio presennol y dref.

Fel un o'n trefi mwyaf, mae Porthcawl angen cyfnewidfa deithio fodern sy'n gallu bod o fudd i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Bydd y cyfleuster Metrolink newydd hwn yn cynnig mynediad effeithlon a chyflym i mewn ac allan o'r dref, ac mae wedi'i gynllunio fel y bydd yn dod yn rhan naturiol o'n cynlluniau adfywio presennol ar gyfer ardal glannau Porthcawl.

Bydd agoriad swyddogol yn digwydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ond yn y cyfamser, rwy'n hynod falch y bydd gwasanaethau'n gallu dechrau gan ddefnyddio'r Metrolink newydd o ddydd Llun 18 Tachwedd.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygiad Economaidd a Thai:

Gallwch ddod o hyd i amserlenni ar gyfer pob gwasanaeth sy'n defnyddio'r Metrolink newydd yma:

Chwilio A i Y