Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Menter plannu coed ar dir fferm i oresgyn newid hinsawdd

Drwy'r Prosiect Gwella Mannau Gwyrdd, mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr a Fferm Sger wedi cydweithio i blannu casgliad amrywiol o goed brodorol mewn ymgais i hyrwyddo bioamrywiaeth a mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Nod y cynllun plannu coed, a gefnogir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yw ehangu ardaloedd coediog a lleihau nwyon carbon, gyda'r coed fydd yn tyfu'n dal carbon a lliniaru effaith allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae'r Prosiect Gwella Mannau Gwyrdd ar Fferm Sger yn rhedeg ochr yn ochr â mentrau plannu coed eraill.  Mae'r rhain yn cynnwys y coetir cymunedol newydd yn Aberfields, Cwm Ogwr, a ariennir gan gyllid rheoli coed craidd y cyngor, a man bywyd gwyllt cymunedol yn Heol y Cyw, a ddatblygwyd drwy'r Prosiect Mannau Lleol ar gyfer Natur gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae ffermwr Sger, Tony Evans, wedi neilltuo darn o dir i gynorthwyo bioamrywiaeth, gan ddangos sut y gall ffermwyr reoli eu tir gydag ymreolaeth wrth barhau i lynu wrth ganllawiau Llywodraeth Cymru a gynigir i ffermwyr.

Yn ganolog i'r bartneriaeth rhwng y cyngor a Tony Evans mae'r ymrwymiad cyffredin i'r amgylchedd ac ymgysylltu cymunedol.  Mae gwirfoddolwyr Cefn Gwlad Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynorthwyo i blannu coed, yn cynnwys Cyll, Cerddinen, Criafolen, a Drain Gwynion amrywiol, wrth dderbyn ystod o fuddion llesiant o'r prosiect.  Mae gan waith cymdeithasol a chorfforol yn yr awyr agored nifer o effeithiau positif ar iechyd meddwl a chorfforol - fe ddywedodd un gwirfoddolwr: "Mae hwn yn ymarfer corff egnïol!  Ac mor llesol i fy iechyd meddwl!"

Dywedodd Tony Evans: "Mae bod mewn partneriaeth â'r cyngor drwy gydol y Prosiect Gwella Mannau Gwyrdd wedi bod yn brofiad da.  Rwy'n croesawu'r cyfle i blannu coed ar y tir hwn ac rwyf wedi bod yn eiriolwr dros ymdrechion cadwraeth rhagweithiol ers tro, ac eisiau gwneud cyfraniad i ddyfodol gwyrddach, mwy cynaliadwy.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd:

Nid dim ond buddiol i hyrwyddo bioamrywiaeth yw mentrau megis y Prosiect Gwella Mannau Gwyrdd, ond mae hefyd yn sicrhau cynaladwyedd arferion amaethyddol, ac felly'n cael effaith bositif ar dda byw, ecoleg a gwytnwch yr hinsawdd.

Rydym yn gwerthfawrogi'r cydweithio â Fferm Sger yn fawr iawn. Mae ein perthynas â ffermwyr yn allweddol ar gyfer paratoi'r ffordd i ddyfodol mwy disglair a chynaliadwy i'r cenedlaethau sydd i ddod.

Delweddau: O'r chwith i'r dde yn y llun o flaen y cae - Arweinydd y Cyngor, Huw David, ffermwr, Tony Evans a'i wraig, Lesley Evans, y Cynghorydd John Spanswick; pedigrî yn pori

Chwilio A i Y