Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal sesiynau i blant

Bydd Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn llawn bwrlwm dros hanner tymor yr hydref, yn cynnal sesiynau celf a chrefft i blant drwy gydol yr wythnos.

Bydd y gweithgareddau'n cael eu cynnal rhwng 11am a 2pm, ac yn dechrau ar 31 Hydref gyda sesiwn grefftau ar y thema Calan Gaeaf dan arweiniad Alison Moger, ac ar 2 a 4 Tachwedd, bydd plant yn cael gwahoddiad i ymuno â Tanio i greu celf hydrefol.   

Er bod y digwyddiadau'n rhad ac am ddim, rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn, ac rydym hefyd yn argymell eich bod yn cadw'ch lle ymlaen llaw, gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.  

Rydym yn annog oedolion sy'n ymweld â'r farchnad gyda'u plant i fwynhau'r amrywiaeth o stondinau fydd ar gael, yn ogystal â'r gyfres o fusnesau fflach newydd a fydd yn arddangos eu cynnyrch.

Mae'r busnesau newydd yn rhan o fenter Pop Up Wales – prosiect sy'n cynnig lleoliad busnes i fentrau newydd a chymorth cyffredinol, gan gynnwys mynediad at gyllid a grantiau.

Mae Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr wedi elwa ar waith adnewyddu yn ddiweddar ac mae bellach yn gallu cynnal amryw o gynlluniau, gan gynnwys sesiynau crefft i blant dros yr hydref – yn debyg i'r Clwb Plant poblogaidd a oedd yn cael eu cynnal yma dros yr haf – yn ogystal ag amrywiaeth o fusnesau fflach.

Byddem wrth ein bodd pe bai pobl yn dod i weld y llu o stondinau amrywiol sydd ar gael dros eu hunain, yn ogystal â sut mae buddsoddi i'r farchnad wedi bod o fudd i'r lleoliad, drwy gynnig sgwâr farchnad newydd, cyfleusterau newid babanod, toiledau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, a mwy.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, y Cynghorydd Neelo Farr

Mae cyllid ar gyfer gweithgareddau'r Clwb Plant a'r stondinau busnes dros dro'n cael ei gynnig fel rhan o'r cyllid gwerth £120,000 mae'r cyngor wedi'i dderbyn gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU ar gyfer cyflwyno Prosiect Elevate and Propser Pen-y-bont ar Ogwr. 

Mae £11,800 ychwanegol wedi'i dderbyn fel arian cyfatebol drwy fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sy'n rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig cymorth ar gyfer adnewyddu canol trefi yng Nghymru.

Chwilio A i Y