Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal sesiynau haf ar gyfer plant

Bydd Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau'r haf hwn, yn amrywio o weithgareddau am ddim i blant i stondinau dros dro gan fusnesau newydd.

Bob dydd Mawrth drwy gydol mis Awst, bydd Clwb Plant yn cael ei gynnal rhwng 11am - 2pm er mwyn diddanu plant gyda sesiynau celf, crefftau a chwarae creadigol am ddim.

Bydd y sesiynau Clwb Plant yn dechrau ar 2 Awst pan fydd Tanio Cymru'n cynnal digwyddiad 'Creu Celf gyda Natur'. Bydd Alison Moger yn ymweld â'r farchnad ar 9 Awst ac 16 Awst i gynnal sesiwn 'Crefftau Blodau Bendigedig', a bydd Clwb Plant olaf y mis yn dod i ben gyda 'Diwrnod Chwarae Mawr' Circus Eruption ar 23 Awst.

Er bod y digwyddiad am ddim, bydd lleoedd yn cael eu rhannu ar sail cyntaf i'r felin, a rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Mae ymwelwyr â'r Clwb Plant hefyd yn cael eu hannog i gymryd cip ar yr amrywiaeth o stondinau sydd gan y farchnad dan do i'w cynnig, yn ogystal â chyfres o fusnesau dros dro a fydd yn arddangos cynnyrch newydd.

Bydd y stondinau gwadd ar gael drwy gydol yr haf fel rhan o'r fenter Pop Up Wales - prosiect sy'n cynnig lleoliad busnes i fentrau newydd a chymorth cyffredinol, gan gynnwys mynediad at gyllid a grantiau.

Mae Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn barod i gynnal ystod o wahanol ddigwyddiadau dros fisoedd yr haf, ac rydym eisiau i gyn nifer o bobl â phosibl ddod draw a chanfod beth sydd ar gael.

Yn cynnwys sgwâr marchnad newydd, cyfleusterau newid babanod, toiledau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn a mwy, mae'r farchnad dan do yn manteisio i'r eithaf ar ei hadfywiad diweddar, ac mae'n wych gweld ei bod bellach yn gallu cynnal mentrau fel y Clwb Plant newydd a busnesau dros dro.

Bydd y Clwb Plant yn llawn hwyl, a bydd y stondinau dros dro yn cynnig perchnogion busnesau newydd cyfle enfawr i arddangos eu cynnyrch a datblygu ymhellach, wrth hefyd helpu i annof rhagor o bobl i ymweld â'r farchnad dan do.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, y Cynghorydd Neelo Farr

Am ragor o fanylion am y Clwb Plant newydd, ewch i'r dudalen Haf o Hwyl ar wefan y cyngor.

Gallwch ddysgu mwy am y cymorth busnes dros dro drwy ymweld â'r wefan Pop Up Wales.

Mae cyllid ar gyfer gweithgareddau'r Clwb Plant a'r stondinau busnes dros dro'n cael ei gynnig fel rhan o'r cyllid gwerth £120,000 mae'r cyngor wedi'i dderbyn gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU ar gyfer cyflwyno Prosiect Elevate and Propser Pen-y-bont ar Ogwr. 

Mae £11,800 ychwanegol wedi'i dderbyn fel arian cyfatebol drwy fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sy'n rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig cymorth ar gyfer adnewyddu canol trefi yng Nghymru.

Chwilio A i Y