Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio tuag at ddileu elw o faethu
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 18 Awst 2023
Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Pen y Bont, yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol.
Mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.
Mae’r newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau sydd wedi’u lleoli’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol, ac sy’n atebol yn lleol.
O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.’ Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw.
Yng ngoleuni’r newidiadau hyn, mae Maethu Cymru Pen y Bont – y rhwydwaith sy’n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru – yn galw am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sy’n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth er elw i drosglwyddo i’w tîm awdurdod lleol.
Mae Cymru yn arwain y ffordd; mae’r polisi hwn yn cynnig cyfle enfawr i wneud newid cadarnhaol, hirhoedlog i ofal pobl ifanc yng Nghymru – er budd pobl ifanc sy’n derbyn gofal heddiw, ac yn y dyfodol. Mae ein cymunedau lleol yn allweddol i wneud i’r newid hwn ddigwydd.
Drwy ymuno â Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr, eich tîm Maethu Awdurdod Lleol, byddwch yn derbyn cyfleoedd hyfforddi parhaus, cefngaeth barhaus, yn ogystal â chyfle i fod yn rhan o gymuned wych. Yn bwysicaf oll, bydd plant a phobl ifanc yn gallu aros yn eu hardaloedd lleol, ger eu man addysg, rhwydweithiau cymorth a phobl y maent yn eu hadnabod – rhywbeth sy’n unigryw i faethu awdurdodau lleol.
Byddwch hefyd yn ddiogel gan wybod nad yw Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr erioed wedi canolbwyntio ar elw, a bob amser ar y gofal gorau i blant a phobl ifanc yn eich cymunedau. Rydyn ni bob amser yn chwilio am bobl ofalgar, ystyriol ac ymroddedig a allai helpu i wella bywydau ein plant a’u dyfodol!
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cyng. meddai Gebbie:
Mae 79% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o’r rhai sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i’w cartref, i’r ysgol, i deulu a ffrindiau.
Eglurodd y gofalwr maeth Teresa, a drosglwyddodd o asiantaeth annibynnol i Faethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr, ei thaith - gan gynnwys y gwahaniaeth y mae hi wedi’i weld wrth faethu gyda’i hawdurdod lleol:
“Yn ein barn ni, roedd gormod o bobl ynghlwm wrth bethau yn ein hasiantaeth flaenorol a doedd dim digon o gymorth. Dyna oedd ein rhesymau ni dros drosglwyddo. Bydd gyda chi ddigon o gymorth a chyngor wrth faethu gyda'ch awdurdod lleol.
"Mae plant wedi cael manteisio ar lawer o weithgareddau; diwrnodau golff, diwrnodau cŵn a cheffylau'r heddlu, ymweliadau â'r orsaf dân, ymweliadau i weld Siôn Corn, ffeiriau haf a phartïon. Mae boreau coffi, seremonïau gwobrwyo a chyrsiau hyfforddi rheolaidd i rieni maeth.
"Rydyn ni'n maethu plentyn sydd ag anawsterau ymddygiadol difrifol, a rhoddwyd gwybod i ni nad oes modd maethu plant eraill. Ar ôl trosglwyddo, rhoddodd ein hawdurdod lleol gymorth i ni gael asesiad ar gyfer ein plentyn maeth fel bod modd rhoi'r cymorth gorau iddo. Mae pedwar plentyn yn derbyn ein gofal ni erbyn hyn ac rydyn ni mor ddiolchgar i Faethu Cymru am bopeth maen nhw wedi'i wneud i ni.”
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo, ewch i: https://penybont.maethucymru.llyw.cymru/