Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae gwaith i ddymchwel maes parcio Bracla Un ar ddechrau, gan wneud lle i ddatblygiad £80m gan Goleg Pen-y-bont ar Ogwr

Fel rhan o raglen 'uwch-gynllunio' sydd â’r nod o adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr dros y ddeng mlynedd nesaf, bydd y datblygiad arfaethedig gan Goleg Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei adeiladu ar gyn-safle Gorsaf Heddlu De Cymru a maes parcio aml lawr Bracla Un ar Cheapside.

Bydd y campws, a fydd yn agor ym mis Medi 2026 yn cynnwys adeilad newydd yn Cheapside fydd yn darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu rhagorol, gan gynnwys theatr, salonau harddwch a thrin gwallt, stiwdios dawns a recordio, gweithdai dylunio a mwy.

Cafodd yr orsaf heddlu ei dymchwel ym mis Mehefin y llynedd, a bwriedir cwblhau dymchwel y maes parcio aml lawr erbyn diwedd Hydref 2024, gyda Willmott Dixon wedi’u dewis i adeiladu’r campws canol y dref newydd £80m.

Bydd y gwaith sydd ar ddechrau yn golygu newidiadau i rai o’r ffyrdd yn yr ardal er mwyn sicrhau y gall ymwelwyr barhau i gael mynediad at fusnesau lleol, gan gynnwys Aldi a rhai sydd yng Nghanolfan Siopa Bracla.

Er mwyn sicrhau bod y maes parcio’n cael ei ddymchwel yn ddiogel, bydd y ffordd o’i flaen ar gau - fodd bynnag, ni fydd y mynediad i Aldi o Stryd Bracla yn cael ei effeithio. Bydd y ffordd fawr y tu allan i Aldi yn dod yn ddwy ffordd, a bydd cwsmeriaid Aldi angen troi i'r dde wrth adael y siop.

Bydd rhan isaf Cheapside, sy'n gwasanaethu Canolfan Siopa Bracla a busnesau yn y cefn, hefyd yn dod yn ffordd ddwy ffordd, gyda mynediad i’r busnesau heb gael ei effeithio. 

Bydd y gorsafoedd bysiau ar Cheapside yn cael eu hail-leoli ar Stryd Nolton ger Canolfan Siopa y Rhiw.

Dywedodd Vivienne Buckley, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Pen-y-bont ar Ogwr: “Rydym ni’n gyffrous ynghylch ein cynlluniau arfaethedig i greu campws newydd canol tref fywiog yng nghalon tref Pen-y-bont ar Ogwr. Ein huchelgais yw creu adeilad carbon sero net, gyda chyfleusterau dysgu ac addysgu 21ain ganrif ar gyfer addysg ôl-16 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda buddion cymunedol yn cynnwys theatr 200 sedd, siop goffi a mannau cyfarfod hyblyg.

“Bydd y buddsoddiad hwn, a ariennir yn rhannol gan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, yn chwarae rhan allweddol yn adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr, gan gefnogi busnesau lleol a defnyddio cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i mewn i’r dref,”

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet  dros Adfywio, Datblygiad Economaidd a Thai: “Rydym ni’n hynod o gyffrous i roi cychwyn ar gam nesaf y cynlluniau ar gyfer y campws canol y dref newydd.

“Mae lleoliad y campws newydd yn addo cyfrannu’n sylweddol i economi canol tref Pen-y-bont ar Ogwr - bydd nifer y myfyrwyr a staff fydd yn ymweld â’r dref yn ddyddiol yn sicr o roi hwb i fusnesau lleol.

“Gan ei fod yn agos at orsaf drenau a bysiau Pen-y-bont, mae cyfleoedd sylweddol i hyrwyddo teithio llesol a defnyddio cludiant cyhoeddus i’r safle, gan helpu i fodloni ein taged carbon sero net.

“O ystyried yr wybodaeth am y gwaith ffordd a ddarparwyd, rydym yn annog y cyhoedd i gynllunio eu teithiau er mwyn sicrhau bod eu hymweliadau yn rhedeg yn esmwyth, a chan osgoi unrhyw oedi.

“Mae cadw’r cyhoedd yn ddiogel o’r pwys mwyaf ac mae’r gwaith ar y ffordd yn hanfodol er mwyn gwarchod y siopwyr ac ymwelwyr eraill i’r ardal, yn ogystal â gwarchod hyfywedd ariannol y busnesau lleol. 

“Hoffem ddiolch i chi ymlaen llaw am eich amynedd a’ch cydweithrediad wrth i ni ymgymryd â’r gwaith hanfodol hwn.” 

 Llun: Cynllun mynediad newydd Cheapside

Chwilio A i Y