Mae gwaith ar y bloc addysgu newydd yn Ysgol Gyfun Bryntirion wedi dechrau
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 06 Medi 2024
Mae gwaith ar gyfer y bloc addysgu newydd pedair ystafell ddosbarth yn Ysgol Gyfun Bryntirion wedi dechrau, gyda gwelliannau i'r ffordd fawr yn digwydd ddechrau mis Hydref.
Bydd y prosiect yn darparu lle ar gyfer y nifer cynyddol o ddisgyblion sy'n dod o'r datblygiadau tai yn nalgylch yr ysgol, gan gynnig gofod addysgu ychwanegol yn ogystal â thoiledau ac ardaloedd storio a chylchredeg.
Mae Korbuild Limited wedi cael ei apwyntio i gwblhau'r adeilad, yn ogystal â'r gwaith ar y tir sydd ei angen ar gyfer estyniad dwy ystafell ddosbarth a allai gael ei adeiladu'n ddiweddarach os oes angen.
Mae'r amgylchiadau cynllunio ar gyfer ymestyn yr ysgol yn cynnwys gwelliannau i'r ffordd fawr i wella llwybrau teithio llesol presennol o amgylch yr ysgol, a bydd angen edrych ar hyn cyn i'r estyniad ar yr ysgol gael ei gwblhau. Mae'r gwaith ar y ffordd fawr, sy'n cynnwys cyfres o balmentydd wedi gostwng, llwybr troed a phalmant newydd, palmant botymog, yn ogystal ag arwyddion mynegbyst, yn cael ei wneud gan Horizon Civil Engineering Limited.
Meddai'r Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: "Mae'n gyffrous gweld y cynlluniau ar gyfer yr ysgol yn cael eu rhoi ar waith. Mae'r estyniad i Ysgol Gyfun Bryntirion yn hanfodol er mwyn galluogi'r ysgol ddarparu lle i'r niferoedd cynyddol o ddisgyblion sy'n cael eu derbyn yno ac i barhau i gynnig darpariaeth o safon i ddysgwyr.
"Bydd disgyblion o'r ardal leol yn cael budd o'r buddsoddiad hwn am flynyddoedd i ddod. Gobeithiwn y bydd unrhyw waith sy'n berthnasol i'r estyniad yn amharu cyn lleied â phosib ar rai sy'n teithio yn yr ardal a hoffem hefyd ddiolch i breswylwyr am eu hamynedd a'u cymwynasgarwch yn ystod y cyfnod hwn."