Mae Ffair Swyddi fwyaf Pen-y-bont ar Ogwr yn dychwelyd!
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 22 Awst 2023
Mae ffair swyddi fwyaf Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dychwelyd i’r Neuadd Fowlio, Canolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Iau 14 Medi a bydd digonedd o gyfleoedd cyffrous ar gael.
Mae ‘Ffair Swyddi, Gyrfaoedd a Rhagolygon Swyddi Pen-y-bont ar Ogwr’ yn ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n cael ei gynnal gan dîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth â Jobcentre Plus. Bydd y drysau yn agor i ymwelwyr am 10am a bydd y digwyddiad yn dod i ben am 1pm.
Ochr yn ochr â’r ystod eang o gyfleoedd gwaith sydd ar gael yn y ‘Parth Cyflogaeth’ bydd ymwelwyr, gan gynnwys disgyblion o ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol, yn gallu dysgu mwy am yrfaoedd gyda'r awdurdod lleol yn y ‘Parth Gyrfaoedd’ a threulio amser yn y ‘Parth Hyfforddiant’ a fydd yn cynnwys darparwyr amrywiol yn arddangos ystod o gyfleoedd datblygu.
Ymysg y cyflogwyr sy'n cymryd rhan hyd yma, mae:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Cwmni Cosmetig Avon
- CGI
- Tata Steel
- Coleg Pen-y-bont ar Ogwr
- First Cymru
- Every care
Bydd amrywiaeth o swyddi gwag dros dro a pharhaol ar gael i wneud cais amdanynt ar y diwrnod. Bydd staff o amrywiaeth o adrannau’r cyngor wrth law i roi manylion am swyddi gwag cyfredol gyda’r awdurdod lleol a bydd tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ar gael i gynnig cymorth gyda cheisiadau.
Bydd unrhyw un sy’n chwilio am gyflogaeth, lleoliadau gwirfoddoli, cyngor ar hyfforddiant a chyfleoedd cymorth yn dod o hyd iddynt yn y Ffair Swyddi, Gyrfaoedd a Rhagolygon.
Rydym yn falch iawn o weithio gyda Job Centre Plus unwaith eto, i ddod â’n ffair swyddi ddiweddaraf i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gyda mynediad am ddim, mynediad hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus a pharcio ceir am ddim, mae’n hawdd galw heibio i ymweld.
Mae gennym amrywiaeth wych o fusnesau yn cymryd rhan hyd yma, gydag ystod eang o gyfleoedd ar gael, o brentisiaethau hyd at gyflogaeth amser llawn, mae rhywbeth at ddant pawb.
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw David