Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llysiau organig o Gymru ar y fwydlen mewn ysgolion ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn un o’r chwe awdurdod lleol i gyfranogi yn y prosiect ‘Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru’, menter traws-sector sy’n cyflwyno mwy o lysiau organig o Gymru i brydau bwyd mewn ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru.

Wedi’i gydlynu gan Synnwyr Bwyd Cymru, sefydliad sy’n anelu at ddylanwadu ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru, mae’r cynllun yn cynnwys tyfwyr brwdfrydig a phartneriaid hanfodol eraill, gan gynnwys partneriaethau bwyd, awdurdodau lleol a byrddau iechyd ar draws Caerdydd, Sir Gâr a Sir Fynwy ynghyd â’r cyfanwerthwr Castell Howell, yn ogystal â Garddwriaeth Cyswllt Cymru.

Wedi’i ariannu gan Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, yn ogystal â Pontio’r Bwlch, rhaglen sy’n cael ei harwain gan SustainGrowing Communities ac Elusen Alexandra Rose , y prosiect sy’n cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob disgybl o oedran ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cynnig cinio ysgol am ddim a bod y cynhwysion a ddefnyddir yn dod o gyflenwyr lleol lle bynnag y bo’n bosib.

“Yn ganolog iddo yw ymdrech  Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru  i gael llysiau lleol sydd wedi’u cynhyrchu’n gynaliadwy i ysgolion er mwyn darparu maeth i blant drwy eu cinio ysgol - y mwyaf o gynnydd rydym ni’n ei wneud, y mwyaf o fudd allwn ni ei ddarparu iddyn nhw,” meddai Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru.

“Dydym ni ddim yn cynhyrchu digon o lysiau yng Nghymru, ac rydym angen adeiladu ein cadwynau cyflenwi, gan ddod â budd i gymunedau lleol a lleihau ein dibyniaeth ar fewnforio drwy gysylltu tyfwyr lleol gyda chyfanwerthwyr lleol a meithrin perthnasoedd sy’n helpu busnesau i ffynnu.”

Ychwanegodd Dr Amber Wheeler, arweinydd y gwaith ymchwil: “Ar y funud, daw’r rhan fwyaf o’r llysiau sy’n dod mewn i ysgolion Cymru o du allan y wlad ac mae’n aml wedi rhewi. Mae’r cynllun peilot hwn yn dangos ei bod yn bosib cynyddu swm y cynnyrch sy’n cael ei dyfu yng Nghymru a chefnogi tyfwyr a ffermwyr wrth wneud hynny, drwy ddefnyddio marchnad darpariaeth cinio ysgol am ddim yr awdurdod lleol. Rydym yn mynd o nerth i nerth ac yn datblygu’r systemau sydd eu hangen er mwyn darparu mwy o lysiau ffres o Gymru i’n hysgolion, tra’n cefnogi systemau ffermio sy’n gwella’r amgylchedd yma yng Nghymru.

Mewn ysgolion ar draws Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr, mae brocoli wedi’i rewi yn cael ei gyfnewid am frocoli ffres, organig o Fferm Langton’s, un o bartneriaid y cynllun, sy’n cael ei rhedeg gan Katherine a David Langton yng Nghrughywel.  Mae dysgwyr wedi cael mewnwelediad i daith y brocoli o’r pridd i’r plât ac maen nhw wedi magu cysylltiad gyda’r prosiect, gan ddewis y llysieuyn o Gymru yn lle’r llysieuyn cyfatebol wedi’i rewi o ran blas ac ansawdd, yn ogystal â chynaliadwyedd.   

Meddai Louise Kerton, Rheolwr Tîm Gyda’r Gwasanaeth Arlwyo: “Mae’n beth gwych bod ein prydau ysgol yn gallu bod yn rhan o Brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru Synnwyr Bwyd Cymru.  Mae’r prosiect yn cefnogi’r awdurdod lleol a’r tyfwyr drwy bontio’r bwlch rhwng cost y brocoli traddodiadol wedi’i rewi ar ein bwydlen â’r brocoli organig, ffres.”   

Drwy gefnogi ffermio cynaliadwy, organig, mae’r prosiect yn cynnig ffrwd incwm newydd neu allweddol amgen, yn ogystal â chyfleoedd i blant gysylltu gyda byd natur a ffermio drwy ymweld â thyfwyr lleol.

Meddai’r ffermwr, Katherine Langton: Rwy’n gyffrous iawn i fod yn rhan o’r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru, mae’n golygu bod bwyd gwych yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf, sef cenedlaethau’r dyfodol. Gobeithio y gallwn eu hysbrydoli nid yn unig i fod yn frwd dros fwyta bwyd iach, sy’n ystyriol o’r amgylchedd, ond hefyd i fod yn ffermwyr a thyfwyr y dyfodol fydd yn ein bwydo ni i gyd yn eu tro.” 

Mae Castell Howell hefyd yn darparu’r cynnyrch i ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol. Mae Edward Morgan, o Gastell Howell, yn tynnu sylw at bwysigrwydd y prosiect a rhan allweddol y cwmni yn y cynllun: “Rydym yn falch o fod yn rhan o’r fenter Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru, ac mae'n wych gweld brocoli o Fferm Langton’s yn cael ei gyflenwi i ysgolion ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Fel cyfryngwyr yn y gadwyn gyflenwi, rydym yn cyflenwi rhyw 1000 o ysgolion ar hyd a lled Cymru ac felly rydym yn cydnabod pwysigrwydd ailstrwythuro sut mae tarddle bwyd yn cael ei sefydlu. 

“Mae gweithio mewn cydweithrediad gyda rhanddeiliaid sydd o’r un anian, ffermwyr a thyfwyr brwdfrydig a chwsmeriaid ymrwymedig yn hanfodol er mwyn cyflawni ein huchelgais a rennir, nid yn unig darparu llysiau sydd wedi’u tyfu yng Nghymru ond darparu gwybodaeth a thrafod risgiau a chyfleoedd gyda lefel uchel o dryloywder.  Rydym hefyd yn falch o fod yn rhan o’r prosiect hwn, gan ddarparu cynnyrch organig, o safon uchel i ysgolion yng Nghymru”.

Meddai’r Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: “Am fenter arbennig! Rydw i mor falch bod ein hawdurdod lleol yn rhan o’r prosiect hwn, gan chwarae rhan bwysig yn gweddnewid yr holl system fwyd bresennol o bosib, a sicrhau bod bwyd lleol, organig yn cael ei gyflenwi i’n hysgolion.  All hyn ond bod o fudd i’n plant, ein hamgylchedd, a’n dyfodol.  Rwy’n awyddus i ddysgu sut fydd y prosiect hwn yn datblygu a pha effaith fydd yn ei gael yn yr hirdymor.” 

Delweddau: Disgyblion yn Ysgol Gynradd Bracla yn cymeradwyo brocoli organig o Gymru yn ystod sesiwn ‘blasu brocoli’.

Chwilio A i Y