Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llyfrgell Pencoed yn cael gweddnewidiad i ddathlu ei 50 blwyddyn

Mae Llyfrgell Pencoed wedi cael trawsnewidiad sylweddol yn y buddsoddiad mwyaf a wnaed ar yr adeilad ers iddo agor 50 mlynedd yn ôl.

Caewyd y llyfrgell am gyfnod byr wrth i waith adnewyddu fynd rhagddo i’w drawsnewid yn fan modern mwy apelgar i bobl leol ei fwynhau.

Roedd y trawsnewidiad, a ariannwyd gan Raglen Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru, yn cynnwys dodrefn wedi eu diweddaru gyda symudedd ychwanegol i ganiatáu man aml bwrpas i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau; podiau gweithio newydd i’r rhai sydd angen ardaloedd tawel i ganolbwyntio ar eu gwaith ysgol neu astudiaethau; ac ystafell gyfarfod gymunedol newydd ar y llawr gwaelod i grwpiau lleol a gwasanaethau cymorth gael eu llogi.

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sy’n rheoli gwasanaethau llyfrgell ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn darparu arian cyfatebol i osod paneli solar ar y to sy’n wynebu'r de, gan gyfrannu at greu adeilad mwy cynaliadwy.

Rwyf wrth fy modd yn ymuno â chydweithwyr yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen i ddathlu 50 mlynedd o Lyfrgell Pencoed gyda’i ailddatblygu gwych.

Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn wedi creu man amlbwrpas, modern a llachar i holl aelodau’r gymuned gael ei fwynhau, gyda budd ychwanegol o baneli solar i greu trydan gwyrdd glân ac ardal eang llawr cyntaf wedi ei ddynodi ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau ar gyfer plant a phobl ifanc. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymwneud â’r ailddatblygiad hwn, yn enwedig Llywodraeth Cymru, ein cydweithwyr yn Awen a Chyngor Tref Pencoed - a fu’n ddigon caredig i ddarparu cartref dros dro yng Nghapel Salem i ganiatáu i’n gwasanaeth llyfrgell sydd ei hangen i barhau yn ystod cyfnod yr adnewyddu.

Mae ystod eang o weithgareddau wedi eu trefnu yn y man sydd wedi ei adnewyddu yn cynnwys sesiynau bownsio ac odli, amser stori a chrefftau, Clwb Lego, Gweithdai Gwyddoniaeth Gwallgo’, grŵp darllen oedolion, grŵp sgwrsio Cymraeg a hyd yn oed dysgu chwarae’r ukulele! Mae yna rywbeth i bawb, heb os, ac rwy’n gobeithio y bydd y gymuned leol yn parhau i fwynhau’r llyfrgell am y 50 mlynedd nesaf a mwy!

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David:

Ychwanegodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Diolch i’r tîm yn Llyfrgell Pencoed, ein partneriaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Tref Pencoed, a chymorth ariannol Llywodraeth Cymru, mae gan y gymuned leol fan lliwgar, gwych y gallant fod yn falch ohono. Yn unol ag ymrwymiad  Awen i fynd i’r afael â thaclo newid hinsawdd, rwyf wrth fy modd ein bod hefyd wedi gosod paneli solar, gam gynorthwyo i leihau ein costau trydan, a gwneud Llyfrgell Pencoed y llyfrgell gwyrddaf yn yr ardal!”

Chwilio A i Y