Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llwyddiant yn codi arian ar gyfer 'Gwobrau Cyflawniad Plant a Phobl Ifanc'

Cafodd Gwobrau Cyflawniad Bwrdd Rhianta Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr eu cynnal ddydd Llun 28 Hydref yn Academi STEAM, Coleg Penybont, Pencoed.

Roedd y gwobrau yn dathlu cyflawniadau anhygoel plant a phobl ifanc o 5 i 21 oed, a oedd naill dan ofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd neu wedi bod yn eu gofal yn flaenorol.

Gwnaed y digwyddiad arbennig hwn yn bosib drwy haelioni busnesau lleol a chenedlaethol wnaeth noddi'r prif ddigwyddiad a'r gwobrau, ynghyd ag ymdrechion i godi arian gan aelodau o'r tîm Gwasanaethau Plant, a chyfraniadau caredig gan y cyhoedd drwy'r llwyfan codi arian Just Giving a roddwyd yn ei le gyda chymorth gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Roedd yr ymateb ysgubol yn anhygoel gan fusnesau oedd yn deall pwysigrwydd dathlu llwyddiannau plant a phobl ifanc. Arweiniodd y cymorth ariannol hwn at gyfanswm sylweddol o £4,500 yn cael ei godi drwy nawdd gan fusnesau lleol, gyda Complete Remedial Solutions Ltd yn brif noddwr y digwyddiad.

Bu'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol yn llwyddiannus yn sicrhau nawdd ar gyfer y gwobrau unigol canlynol:

Ynghyd â'r cyfraniadau yma, fe wnaeth yr asiantaeth ddylunio leol, United Graphic Design, ddylunio a chreu gwaith brandio trawiadol yn rhad ac am ddim, ar gyfer Gwobr Cyflawniad Plant. Cafodd y gwobrau hefyd eu cefnogi gan adwerthwyr lleol wnaeth gyfrannu anrhegion hyfryd.

Meddai Steve Berry, Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogiad: "Oherwydd y cyfraniadau hael a'r nawdd mae ein plant a'n pobl ifanc wedi gallu profi diwrnod llawn hwyl i'w fwynhau gyda'u gofalwyr maeth a'u gwesteion. Roedd yna bob math o weithgareddau ar eu cyfer, ynghyd â bwyd gwych, a chawsant eu cyflwyno gyda thystysgrif gwobr wedi'i chreu'n arbennig, a bag o ddanteithion.

"Hoffwn ddiolch o waelod calon am yr holl unigolion a busnesau wnaeth godi arian a darparu nawdd i wneud y diwrnod yn bosib. Hoffwn hefyd gydnabod ein tîm staff oedd yn rhan o enwebu'r plant, helpu gyda'r holl gynllunio ymlaen llaw a rhai oedd yn cymryd rhan ar y diwrnod. Roedd yr holl waith caled dros y misoedd diwethaf yn werth pob ymdrech pan oeddech chi'n gweld y wên lydan ar wynebau'r plant a'r bobl ifanc, a'r balchder amlwg oedd gan y gofalwyr wrth i'r plant a'r bobl ifanc dderbyn eu gwobrau!"

Meddai un Gofalwr Maeth am y diwrnod: "Roedd e'n ddiwrnod gwych; dwi'n gwybod bod fy machgen i wedi mwynhau pob eiliad. Cafodd amser arbennig, ac roedd wrth ei fodd gyda'i dystysgrif, roedd e wir yn gwneud iddo deimlo'n falch ohono'i hun ac fe roddodd hwb i'w hyder. Roedd yna awyrgylch bositif drwy'r dydd. Diolch!"

Yn ogystal â haelioni busnesau, fe wnaeth aelodau o Wasanaethau Plant y Cyngor roi popeth i gefnogi'r gwobrau ac fe chwaraeon nhw ran allweddol yn codi'r swm o £4,350, drwy amrywiol ffyrdd. Roedd y digwyddiadau codi arian yma yn cynnwys unigolion o dîm Hwb Ardal y Gogledd a Thîm Plant gyda Phrofiad o Ofal wnaeth ymgymryd â thaith gerdded noddedig i Ben-y-Fan, y Tîm Profiad Mewn Gofal  wnaeth gynnal tawelwch noddedig, cynhaliodd yr Hwb Diogelu Aml-asiantaeth stondin gwerthu cacennau, ac fe wnaeth y tîm 16+ barhau i godi arian drwy agor siop fwyd i'r staff yn y ganolfan ddinesig.

Nid dim ond ymdrechion y gymuned leol a'r gwasanaethau plant wnaeth y diwrnod hwn yn bosib, ond hefyd y gofalwyr maeth a'r gweithwyr proffesiynol, sydd wedi cefnogi eu plant a'u pobl ifanc i allu cyflawni'r llwyddiannau yma.

Er mwyn cydnabod yr unigolion hyn cafodd 'Gwobr Help Llaw' ei chreu er mwyn cydnabod oedolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i berson/bobl ifanc yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er enghraifft, athro, gweithiwr cymdeithasol, gofalwr maeth. Rhywun oedd wedi gwrando ar anghenion person ifanc ac wedi gweithredu ar hynny, gan eu trin ag urddas a pharch, a mynd y tu hwnt i gyfrifoldebau eu rôl arferol. Cafodd rhestr fer o'r enwebiadau ei chreu gan y Fforwm Ieuenctid, a dewiswyd tri o'r rhai a enwebwyd i dderbyn gwobr, gan gynnwys - y Gofalwr Maeth Becky Walsh, Gweithiwr Preswyl, Cody O'Brian a Swyddog Llety Dewis, Julie Jones.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant - Y Cynghorydd Jane Gebbie: “Roedd pwysigrwydd y gwobrau hyn i'r plant a'r bobl ifanc oedd â phrofiad o fod mewn gofal ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn flaenoriaeth i bob busnes a phob unigolyn wnaeth gyfrannu drwy noddi, codi arian a rhoddion.

"Mae dathlu pob plentyn a pherson ifanc y ffordd yma, tra'n cydnabod eu cyflawniadau, yn ffordd wych o sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn hyderus o ran yr hyn maent yn gallu'i wneud. Roedd yn brofiad arbennig iawn cael tystio i'r balchder roedd y plant a'r bobl ifanc yn ei fynegi wrth ennill eu gwobrau, ynghyd â'u gofalwyr maeth a'u gwesteion. Y gobaith yw y bydd y diwrnod yn cadarnhau beth sy'n bosib i'r plant a'r bobl ifanc a'u hatgoffa o'r hyn maent eisoes wedi'i gyflawni.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm wrth godi'r arian i wneud hyn yn bosib, ac am yr holl waith caled a phenderfyniad yn sicrhau bod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol yn gallu rhoi diwrnod i'w gofio i'r plant a'r bobl ifanc."

Os hoffech chi ddysgu mwy am waith y Bwrdd Rhianta Corfforaethol gyda Phlant a Phobl ifanc yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch draw i: https://www.bridgend.gov.uk/media/ttjebv4c/bridgend-corporate-parenting-strategy-cym.pdf

Chwilio A i Y