Llwyddiant TGAU i ddisgyblion ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Iau 24 Awst 2023
Mae disgyblion ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu eu canlyniadau TGAU heddiw (dydd Iau 24 Awst 2023) ac mae ystod o gymorth ar gael i’r holl ddysgwyr.
Mae llawer o ddisgyblion wedi cyflawni graddau gwych mewn ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol heddiw, gyda nifer yn dewis parhau eu haddysg yn y chweched dosbarth neu’r coleg, ac eraill yn dewis dechrau prentisiaeth neu fentro i’r byd gwaith.
Dywedodd Mr Ryan Davies, Pennaeth Ysgol Gyfun Brynteg: “Rydym yn hapus iawn gyda’n canlyniadau TGAU ac mae pawb yn yr ysgol yn hynod falch o ymdrechion yr holl ddisgyblion. Daeth sawl anfantais i ran y grŵp eleni oherwydd COVID ac mae staff a disgyblion wedi gweithio’n galed i oresgyn yr heriau lu. Hoffwn ddymuno’r gorau i’n holl ddisgyblion yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Mrs Tracey Wellington, Pennaeth Coleg Cymunedol y Dderwen: “Mae ein dysgwyr wedi cyflawni canlyniadau rhagorol, sy’n haeddiannol iawn. Mae Blwyddyn 11 wedi bod yn grŵp anhygoel, yn llawn cymeriadau lliwgar, arbennig sydd wedi cefnogi ei gilydd drwy flynyddoedd anodd.”
Hoffwn longyfarch y disgyblion ar eu gwaith caled. Mae’n braf gweld llawer o fyfyrwyr yn cael canlyniadau gwych a does dim amheuaeth gen i y bydd dosbarth 2023 yn llwyddiannus yn yr hyn a wnânt yn y dyfodol.
Hoffwn ddiolch o galon i’r staff addysgu a chymorth am ymroi eu hunain i sicrhau bod pobl ifanc ar draws y fwrdeistref sirol wedi eu paratoi at lwyddiant.
Mae Tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr y cyngor hefyd wedi bod yn ymweld ag ysgolion heddiw i gynnig cymorth a chyngor i ddisgyblion. Gellir cysylltu â nhw ar 01656 815317.
Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:
Os nad ydych chi wedi llwyddo i gael y canlyniadau roeddech yn gobeithio eu cael a’ch bod yn ansicr ynghylch y dyfodol, peidiwch â gofidio, mae digonedd o opsiynau ar gael:
- Siaradwch â'ch ysgol a all gynnig cyngor a chymorth i chi ynghylch pa opsiynau sydd ar gael i chi.
- Ewch i wefan Gyrfa Cymru, lle mae digon o adnoddau ar gael i'ch helpu chi.
- Ystyriwch brentisiaeth lle allwch weithio ochr yn ochr â phobl broffesiynol yn y diwydiant, ennill cyflog a datblygu eich sgiliau – ewch i wefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth.