Llwyddiant eto i ysgolion ledled y fwrdeistref sirol!
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 16 Mai 2023
Mae ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyflawni llwyddiant anhygoel unwaith eto, gydag uchafbwyntiau yn cynnwys ennill gwobrau iaith Gymraeg ac enghreifftiau arbennig o ymarfer mathemategol!
Mae nifer o lwyddiannau ein hysgolion yn gysylltiedig â Chymraeg Campus Siarter Iaith – sy’n darparu fframwaith ar gyfer hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac ethos Gymraeg ar draws pob agwedd ar fywyd ysgol. Mae modd i ysgolion gyflawni naill ai gwobr efydd, arian neu aur am eu hymdrechion wrth ddilyn y fframwaith.
Gan gydweithio ag ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg eraill ar draws pum awdurdod lleol, mae Ysgol Gynradd Afon-y-Felin yn rhan o Weithgor Cymraeg Campus Siarter Iaith - grŵp sy’n cynhyrchu adnoddau o ansawdd dda er mwyn cefnogi ysgolion eraill gyda Gwobr Aur Cymraeg Campus Siarter Iaith.
Bu i Ysgol Gynradd Garth, yn ogystal ag Ysgol Gynradd Ffaldau dderbyn cefnogaeth gan y ‘Dragon’s Den’, yn dilyn ymdrechion yr ysgol i ddatblygu prosiect Gymraeg ar gyfer y gystadleuaeth ‘Dragon’s Den’ boblogaidd a gynhelir gan Siarter Iaith. Bu i Ysgol Gynradd Bryncethin ynghyd ag Ysgol Gynradd Corneli dderbyn, yn eu tro, eu gwobrau Cymraeg Campus Siarter Iaith Aur ac Efydd.
Mae Ysgol Gynradd Pencoed ac Ysgol Gyfun Pencoed wedi bod yn hyrwyddo’r iaith Sbaeneg, gyda’r ddwy ysgol yn cael budd o gydweithio er mwyn datblygu continwwm 3 i 16 oed ar gyfer y Sbaeneg - sydd hefyd yn cynnwys cynlluniau i lysgenhadon Blwyddyn 9 ymweld â charfan Blwyddyn 5 Ysgol Gynradd Pencoed pob dydd Mawrth.
Bydd llwyddiant Ysgol Gynradd Corneli yn parhau gyda’i phartneriaeth ag Undeb Credyd Achubwyr Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr. Yn dilyn llwyddiant eu clwb cynilo o 2015 i 2016, bu i’r ysgol ail-lansio Cynllun Cynilo Ysgol Gynradd Corneli yn ddiweddar, gan annog y plant i ymgymryd â rôl weithredol o fewn y fenter, a’u haddysgu am bwysigrwydd cynilo. Gyda thros 140 o aelodau, gan gynnwys staff, mae Ysgol Gynradd Corneli wedi ennill gwobr Undebau Credyd Cymru yn dilyn cais fideo a oedd yn ymwneud â’r prosiect, yn ogystal â derbyn enwebiad am Bartneriaeth Ysgol Undebau Credyd Cymru.
Daeth yr ysgol i’r amlwg am ddatblygu cymhwysedd ariannol ei disgyblion, yn ogystal â'r gymuned yn ehangach, drwy ei chynllun cynilo. Mae astudiaeth achos yr ysgol ar gael drwy wefan Bridgend School Savings, Bridgend School Savings - astudiaeth achos Ysgol Gynradd Corneli.
Bu i ddisgyblion Ysgol Gynradd Plasnewydd ym Maesteg hefyd dderbyn cydnabyddiaeth am eu hesiampl ym maes mathemateg, am gyfuno creadigrwydd, llythrennedd a sgiliau rhifiadol drwy gydol y tymor wrth gymryd rhan yng nghystadleuaeth fyd-eang ‘Maths through stories’.
Mae Ysgol Gynradd Caerau yn ddiweddar wedi adfer ardal ddiffaith o’i safle drwy roi’r cwricwlwm newydd ar waith a chanolbwyntio ar gwblhau gwaith grŵp a datblygu’r amgylchedd y tu hwnt i’r dosbarth. Mae’r ffordd newydd hon o weithio wedi ysgogi'r disgyblion i gymryd perchnogaeth o'r tir ac i sefydlu Gwarchodfa Natur Caerau – sy'n cynnwys pwll ar gyfer bywyd gwyllt hyd yn oed. Mae’n ased hynod werthfawr i'r ysgol, lle all plant archwilio ac ymchwilio gwahanol gyfleoedd byd natur.
Mae dysgwyr o Ysgol Gynradd Tynyrheol wedi cychwyn prosiect newydd, lle mae'r dysgwyr yn ganolog, sydd wedi ei ysbrydoli gan fywyd Dr Richard Price, a oedd yn athronydd, diwygiwr a mathemategwr enwog a anwyd yn Llangeinor ym 1723. Bu’r dysgwyr yn cydweithio gyda’r gymuned yn ehangach, yn ogystal â gydag ysgolheigion ledled y byd, er mwyn archwilio i fywyd a gwaddol Dr Price. Mae hoff waith y disgyblion yn cynnwys creu fideos 360°, creu paentiadau olew o Dr Price, ac archwilio effaith ei syniadau ar y byd. Bu i'r plant a’u gwaith chwarae rhan bwysig o fewn Arddangosfa’r Gymdeithas Hanesyddol yng Nghanolfan Richard Price ac yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.
Rwyf yn falch iawn o’r hyn mae’r ysgolion wedi’i gyflawni, ac o’r hyn maent yn parhau i'w gyflawni. Dim ond oherwydd ein staff ymrwymedig, ac wrth gwrs, ein dysgwyr brwdfrydig, y caiff gwaith anhygoel fel hyn ei gyflawni.
Mae llwyddiannau’r plant wedi datblygu eu sgiliau, yn ogystal â’u hawydd i ddysgu, a bydd hyn yn eu cynorthwyo drwy gydol eu bywydau.
Diolch o galon i bawb sydd yn helpu i lywio bywydau ein pobl ifanc am y gorau!
Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg