Llwyddiant arolygiad Estyn i Ysgol Gynradd Afon y Felin
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 22 Mawrth 2023
Mae Ysgol Gynradd Afon y Felin wedi ei barnu’n llwyddiannus yn cynorthwyo’i dysgwyr i ddangos cynnydd gan arolygwyr Estyn.
Yn dilyn dwy flynedd o ysgolion leded Cymru yn cael eu heithrio rhag arolygon Estyn o ganlyniad i’r pandemig, ymwelodd Estyn â’r ysgol gynradd ym mis Mehefin 2022 dan drefniadau arolygu newydd.
Yn ystod y ddwy flynedd o seibiant o ysgolion, datblygodd Estyn ei weithdrefnau arolygu i gynorthwyo’r adnewyddu a’r diwygio addysg yng Nghymru.
Mae adroddiadau arolygu newydd yn amlygu pa mor dda mae darparwyr addysg yn cynorthwyo plentyn i ddysgu, yn hytrach na defnyddio graddau cyfansymiol fel o’r blaen.
Mae fformat adrodd presennol Estyn yn ystyried y categorïau canlynol i farnu ysgol:
- Dim camau dilynol
- Adolygiad Estyn
- Angen gwelliant sylweddol
- Angen mesurau arbennig
Yn ôl arolygwyr Estyn, mae Ysgol Gynradd Afon y Felin yn gwneud cynnydd digonol ac nid oes angen camau dilynol yn yr ysgol.
Mae’r argymhellion i’r ysgol er mwyn parhau i ddatblygu yn cynnwys cryfhau prosesau hunanarfarnu mewn perthynas ag addysgu a dysgu, yn ogystal â defnyddio dulliau asesu ac adborth effeithiol i gynorthwyo cynnydd disgyblion.
Bydd yr awdurdod lleol, ynghyd â Chonsortiwm Canolbarth y De, yn cynorthwyo ysgolion yn llawn wrth fynd i’r afael ag unrhyw argymhellion a roddwyd gan arolygwyr Estyn.
Rydym yn falch iawn o Ysgol Gynradd Afon y Felin! Mae ymdrechion y staff addysgu a’r disgyblion wedi eu cydnabod ac mae’r cynnydd maent yn ei wneud wedi ei amlygu yn adroddiad yr adolygiad.
Da iawn bawb! Daliwch ati gyda'r gwaith arbennig!
Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg