Lansio ymgyrch newydd ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd er mwyn annog mwy o aelwydydd i weithredu.
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 01 Awst 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi lapio pump o gerbydau casglu fel rhan o ymgyrch eang i annog aelwydydd i ailgylchu gwastraff bwyd ledled y fwrdeistref sirol.
Drwy ddefnyddio gwaith celf creadigol ‘Bydd Wych. Ailgylcha’ oedd eisoes yn bodoli, mae'r cerbydau wedi eu lapio gyda delweddau sy’n amlygu 'Pŵer Gwastraff Bwyd’ a sut all ailgylchu gwastraff bwyd gynhyrchu ynni adnewyddadwy all ein helpu i fynd i’r afael â'r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.
Derbyniodd yr awdurdod lleol gyllid grant ar gyfer lapio'r cerbydau, ac ar gyfer adnoddau eraill i’r ymgyrch, fel rhan o ymgyrch genedlaethol gan WRAP Cymru a Llywodraeth Cymru i wella cyfraddau ailgylchu, a drwy hynny gefnogi amcan Llywodraeth Cymru i ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050, ac i Gymru fod ar y brig yn fyd-eang o ran ailgylchu.
Mae’r 7,601 tunnell* o wastraff bwyd a gesglir o gartrefi ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei ailgylchu yn lleol mewn safle treulio anaerobig yn Stormy Down. Caiff ei ddefnyddio yn gyntaf i gynhyrchu trydan i bweru tai lleol, yna caiff ei ailgyflwyno i’r gadwyn fwyd fel gwrtaith organig (6,080 tunnell*), a fydd yn cael ei wasgaru dros tua 3,000 acer o dir fferm cyfagos.
Rydym yn falch o dderbyn y cyllid yma gan Wrap Cymru a Llywodraeth Cymru, ac o allu cymryd rhan yn yr ymgyrch ‘Bydd Wych. Ailgylcha’, sydd wedi ei gydnabod fel cynllun ailgylchu mwyaf uchelgeisiol Cymru hyd heddiw. Mae’r pum cerbyd casglu yn edrych yn wych ac maent yn siŵr o ddenu sylw preswylwyr ledled y fwrdeistref sirol.
Gobeithiwn y bydd yr ymgyrch ymwybyddiaeth hwn yn annog yr aelwydydd nad ydyn nhw'n defnyddio ein gwasanaethau casglu gwastraff bwyd i wneud hynny
Y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd
Am ragor o wybodaeth ynghylch ailgylchu yn y fwrdeistref sirol, neu i ofyn am fwy o fagiau gwastraff, ewch i’n gwefan.
*Ffigyrau o 2022.