Lansio’r Parth Crimestoppers cyntaf yng Nghymru ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 27 Mawrth 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cydweithio gyda’r elusen adnabyddus Crimestoppers a chymdeithas dai Cymoedd i’r Arfordir i gyflwyno’r Parth Crimestoppers cyntaf yng Nghymru.
Mae’r parth, a leolir yn ardal Y Felin-wyllt, Pen-y-bont wedi cael ei gyflwyno i annog cymunedau i rannu gwybodaeth am droseddau yn ddienw a hybu pawb i chwarae rhan mewn cadw bröydd Pen-y-bont yn ddiogel.
Bydd trigolion y Parth Crimestoppers newydd yn cael eu hannog i roi gwybod am weithgarwch troseddol trwy wasanaeth adrodd unigryw’r elusen, gan fod yn dawel eu meddwl bod y wybodaeth a roddir ganddynt yn cael ei chadw’n gwbl gyfrinachol.
Mae’r elusen yn gwarantu anhysbysrwydd llwyr wrth gasglu gwybodaeth am droseddau, a gellir adrodd gwybodaeth mewn dros 140 o ieithoedd. I’r rhai sy’n ffonio’r elusen, gellir darparu cyfieithydd ar ochr arall y ffôn pe bai angen o fewn ychydig funudau.
Yn ogystal â lleihau troseddu, nod y Parth Crimestoppers yw annog cymunedau i rannu gwybodaeth yn ddiogel ac yn ddienw am yr hyn maen nhw’n ei wybod neu eu hamheuon, i sefyll yn erbyn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, heb ofni dial gan droseddwyr.
Meddai Hayley Fry, Rheolwr Cenedlaethol Cymru ar ran yr elusen Crimestoppers:
"Rydym ni’n falch iawn o lansio’r fenter hon mewn partneriaeth â’r cyngor. Mae’r cysyniad yn syml - os byddwch chi’n gweld unrhyw beth sy’n peri pryder i chi, mae gennych chi ffordd ddiogel a dienw i rannu’r wybodaeth honno. Gyda’r Parth Crimestoppers, gall trigolion adrodd unrhyw amheuon neu wybodaeth ynglŷn â gweithgarwch troseddol heb ofni dial. Mae eich llais yn bwysig, a gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol er mwyn gwneud Pen-y-bont ar Ogwr yn lle mwy diogel.
“Mae gan rai pobl wybodaeth ynglŷn â throseddau, ond yn teimlo nad oes ganddynt unman i droi. Cofiwch fod elusen Crimestoppers a’n gwasanaeth Fearless ar gyfer pobl ifanc yma i helpu. Nid ydym yn barnu nac yn cymryd manylion personol y rhai sy’n cysylltu â ni. Yr unig beth yr ydym ni ei angen yw’r wybodaeth. Byddwch yn parhau i fod yn gwbl ddienw. Bob amser.”
Mae hi’n bwysig iawn i bobl adrodd am droseddau. Mae’n amlygu ardaloedd problemus ac yn rhoi gwybodaeth am droseddwyr y gall yr heddlu weithredu arni.
Mae gan drigolion fwy o wybodaeth fanwl na chyrff cyhoeddus – trwy gamu ymlaen a rhannu gwybodaeth bwysig am droseddau yn y gymuned leol, gallwch chwarae rôl hollbwysig wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol digroeso, a helpu i sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am y troseddau hyn yn cael eu herlyn.
Gobeithiwn y bydd y fenter hon nid yn unig yn meithrin hyder ymysg cymunedau lleol o ran adrodd am droseddau i’r heddlu neu’r cyngor, ond hefyd yn amlygu anhysbysrwydd Crimestoppers, sy’n sefydliad adnabyddus y gellir ymddiried ynddo.
Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Lles Cymunedol
Gallwch gysylltu gyda’r elusen Crimestoppers yn gwbl gyfrinachol drwy ffonio 0800 555 111 ar unrhyw adeg, neu drwy gwblhau ffurflen ddiogel ar-lein ar wefan Crimestoppers-uk.org neu Fearless.org ar gyfer pobl ifanc, lle gallant hefyd dysgu mwy am gadw eu hunain a’u cyfoedion yn ddiogel.
Noder: Nid yw cyfeiriadau IP cyfrifiaduron yn cael eu holrhain wrth ddefnyddio gwefannau Crimestoppers-uk.org na Fearless.org, ac ni fydd unrhyw un yn gwybod eich bod wedi cysylltu â nhw. O ran galwadau ffôn i Crimestoppers ar 0800 555 111, nid yw rhif y galwr yn cael ei ddangos, nid oes modd defnyddio gwasanaeth 1471 ac nid oes unrhyw alwadau erioed wedi cael eu holrhain.