Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Lansio llwybr treftadaeth canol tref newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hanes cyfoethog, rhyfeddol sy'n haeddu cael ei archwilio. Dyna pam mae'r cyngor wedi ffurfio partneriaeth gyda Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr i greu llwybr treftadaeth canol tref newydd a rhyfeddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r llwybr yn eich arwain ar daith i ganfod mwy am rai o ddigwyddiadau ac adeiladau hanesyddol y dref ynghyd ag ambell i gymeriad lleol lliwgar.

Dewch i ddysgu pwy ddaeth â'r ffynnon ddŵr bibellog gyntaf i'r dref, sut aeth y gymuned ati i godi arian er mwyn mabwysiadu llongau llyngesol i gefnogi ymdrechion yr Ail Ryfel Byd, pam mae Stryd y Capel, sef y stryd hynaf yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr yn ôl bob sôn, yn cael ei hadnabod yn lleol fel 'Y Lôn Wyddelig'.

Mae'r llwybr yn cynnwys 28 pwynt i ymweld â hwy, gyda chwe phanel dehongli, gan gynnwys:

  • Gogledd Heol Merthyr Mawr (ger mynedfa'r de i Eglwys Santes Fair, Nolton)
  • Stryd yr Ysgawen (yn y fynedfa i Iard yr Ysgawen)
  • Rhiw Hill (ar y lawnt yn edrych dros yr afon)
  • Hysbysfwrdd Heol-y-Cwrt (ger mynedfa'r orsaf drenau)
  • Stryd Wyndham (ochr swyddfa'r post)
  • Yr Hen Bont Garreg (ochr Stryd yr Angel, i'r chwith o fynedfa'r bont)
  • Bryn Castell Newydd (ar y lawnt yn edrych dros yr afon)

Mae'r paneli dehongli hefyd yn arddangos cod QR, a fydd ar ol ei sganio, yn mynd â chi at fap digidol sy'n galluogi pobl i archwilio'r 28 pwynt ar y map. Mae'r map hefyd yn cyfeirio pobl at:

  • Fyrddau Llwybrau Cerdded Ail Ryfel Byd y Cyngor Tref
  • Lleoliadau Plac Glas
  • Lleoliadau Plac yr Ymddiriedolaeth Ddinesig

Gallwch gyrchu'r llwybr mewn sawl gwahanol ffordd - lawrlwythwch y daflen pdf ar-lein, sganiwch y codau QR ar hyd y llwybr neu casglwch gopi papur o'r map o leoliadau partner yng nghanol y dref yn cynnwys Swyddfeydd Dinesig y cyngor, Tŷ Carnegie a Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr.

Rydym yn hynod falch o gael cynnig y profiad newydd hwn, sy'n dod â threftadaeth canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn fyw. Mae'r llwybr, sy'n brosiect a nodwyd yn Uwchgynllun Adfywio Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, yn weithgaredd difyr i grwpiau fel ysgolion, teuluoedd, neu unigolion ac ymwelwyr.

Mae hefyd yn adnodd gwych ar gyfer dod o hyd i ffeithiau i'r rhai sy'n frwd dros hanes yn ogystal â'r rhai sy'n ymddiddori yn yr ardal leol! Cafodd y prosiect ei greu mewn ymateb i adborth ymgynghoriad gyda'r cyhoedd, a amlygodd bod treftadaeth yn bwysig i'r bobl leol ac y gallai asedau treftadaeth di-rif canol tref Pen-y-bont ar Ogwr brofi i fod yn bwynt gwerthu unigryw iddi.

Mae ein hamgylchedd hanesyddol yn cyfrannu at ein hymdeimlad o hunaniaeth - mae'r llwybr hwn yn gyfle i ddysgu rhagor am hanes Pen-y-bont ar Ogwr, gan feithrin cysylltiad cryfach â phreswylwyr ac ymwelwyr.

Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygiad Economaidd a Thai

Datblygwyd y llwybr treftadaeth gyda chefnogaeth gan Arcadis Consulting UK Ltd mewn partneriaeth â Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, ac Ymddiriedolaeth Ddinesig Pen-y-bont ar Ogwr a chafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r rhaglen Trawsnewid Trefi.

Chwilio A i Y