Lansio her ddarllen yr haf gyda llu o weithgareddau llawn hwyl
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 03 Gorffennaf 2024
Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn lansio Her Ddarllen yr Haf 2024 a rhaglen o weithgareddau’r haf yn Llyfrgelloedd Awen trwy gynnal digwyddiad yn llawn hwyl i’r holl deulu yng Nghaeau Newbridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf rhwng hanner dydd a 3pm.
Bydd ‘Hwyl yn y Parc’ yn cynnwys teganau wedi’u llenwi ag aer, sesiynau symud a dawnsio, gemau, storïau a chrefftau, helfa drysor a llawer mwy. Bydd Lee Jukes, DJ Brecwast Bridge FM, yn darlledu’n fyw o’r digwyddiad a bydd yr holl weithgareddau’n rhad ac am ddim.
Caiff Her Ddarllen yr Haf, a gynhelir ers 1999 gan elusen o’r enw The Reading Agency mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus, ei hanelu at blant 4-11 oed. Mae’n cynorthwyo’r grŵp oedran hwn (er, caiff plant iau a phlant hŷn gofrestru hefyd) a’u teuluoedd trwy wneud y canlynol:
- Paratoi plant i ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth yn yr hydref.
- Eu cynorthwyo i symud i grŵp oedran neu gyfnod allweddol newydd.
- Rhoi hwb i hyder a hunan-barch plant trwy eu cynorthwyo i ddarllen yn annibynnol.
- Darparu mynediad rhad ac am ddim at lyfrau a gweithgareddau llawn hwyl i’r holl deulu yn ystod yr haf.
Y gobaith yw y bydd y thema ‘Crefftwyr Campus’ ar gyfer eleni, a ddatblygwyd gyda’r elusen gelfyddydol flaenllaw Create, yn tanio dychymyg y plant ac yn rhoi rhwydd hynt i storïau a chreadigrwydd trwy gyfrwng darllen.
Ar ôl y lansiad, bydd llyfrgelloedd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau, yn cynnwys gweithdai drymio Affricanaidd, gweithdai Craft Junction, gweithdai Symud a Dawnsio gyda Zack Franks a gweithdai ‘Y Dyn Hud’ gyda Carl John.
Bydd pawb ar eu hennill trwy gymryd rhan yn Her Ddarllen yr Haf! Bydd modd i deuluoedd elwa ar ddigwyddiadau a gweithgareddau rhad ac am ddim dros gyfnod drud y gwyliau ysgol, bydd y plant wrth eu bodd yn darllen llyfrau yn gyfnewid am wobrau, a bydd ein cydweithwyr yn dotio ar weld llu o wynebau hapus yn mwynhau treulio amser yn eu llyfrgelloedd.
Ond mae yna ochr fwy difrifol i Her Ddarllen yr Haf hefyd. Dyw 1 o bob 4 plentyn ddim yn gallu darllen yn dda erbyn iddyn nhw gyrraedd 11 oed – rhywbeth sy’n cyfyngu’n fawr ar eu sgiliau a’u dewisiadau mewn bywyd.
Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu yn ein llyfrgelloedd a’n cymunedau lleol i ddatblygu a chynnal llythrennedd plant.
Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
Medd Claire Marchant, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Yn ogystal â bod yn sgìl sylfaenol, mae darllen yn ysbrydoli ac yn ysgogi ein dychymyg. Ar gyfer Her Ddarllen yr Haf eleni, rydym eisiau annog pobl ifanc i fod yn greadigol ac archwilio syniadau llawn dychymyg trwy ddarllen a dysgu! Y gobaith yw y bydd y profiadau hyn yn cael eu hymgorffori ym mywydau beunyddiol ein pobl ifanc. Gobeithio y bydd plant ledled y fwrdeistref sirol yn mwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau.”
Caiff Her Ddarllen yr Haf yng Nghymru ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.