Lansiad cynnyrch mislif am ddim i holl ferched ifanc yr ardal
Poster information
Posted on: Dydd Iau 06 Gorffennaf 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lansio menter urddas mislif arloesol i ddarparu cynnyrch mislif am ddim i ferched ifanc sydd eu hangen yn yr ardal.
Nod y rhaglen cynnyrch mislif am ddim yw mynd i’r afael â’r broblem o dlodi mislif, gan sicrhau bod unigolion sy’n wynebu caledi ariannol â hawl i gynnyrch misglwyf hanfodol, gan chwalu unrhyw rwystrau rhag derbyn addysg.
Mae tlodi mislif yn parhau i fod yn bryder dirfawr mewn sawl cymuned, gydag unigolion a theuluoedd yn cael trafferth fforddio cynnyrch misglwyf angenrheidiol. Yng nghanol yr argyfwng costau byw, mae chwyddiant ar ei uchaf a biliau ynni’n cynyddu’n sylweddol yn golygu bod nifer wedi eu gorfodi i flaenoriaethu hanfodion cartref eraill dros brynu cynnyrch fel padiau a thamponau. I ferched ifanc, mae’r diffyg hawl i gynnyrch yn amharu ar addysg a phresenoldeb yn yr ysgol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ymchwil yn dangos nad yw 15% o ferched rhwng 14 a 21 oed yng Nghymru’n gallu fforddio prynu cynnyrch mislif ar ryw bwynt.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen y Bont ar Ogwr wedi ymrwymo i gynorthwyo pobl ifanc yn eu cymunedau.
Mae ein partneriaeth gyda Grace & Green, darparwr cynnyrch mislif ecogyfeillgar blaenllaw, yn golygu y gall trigolion dan 25 oed y fwrdeistref sirol dderbyn cynnyrch yn uniongyrchol i’w cartref neu eu nôl o fan casglu, gan sicrhau bod unigolion yn gallu ymdopi â’u mislif â hyder ac urddas.
Nod y fenter yw lleihau’r gost o brynu’r eitemau hyn wrth gynorthwyo pobl ifanc i gynnal eu hiechyd, eu diogelwch a’u gallu i gymryd rhan mewn bywyd bob dydd.
Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol
Dywedodd Fran Lucraft, Sylfaenydd Grace & Green: ‘Ni ddylai neb orfod cyfaddawdu eu hiechyd, eu haddysg na’u hurddas oherwydd na allant fforddio cynnyrch misglwyf hanfodol.
Rydym yn ystyried yr hawl i gynnyrch mislif cynaliadwy a diogel yn hawl dynol sylfaenol a chredwn y bydd y fenter hon yn gam sylweddol tuag at gyflawni’r nod hwnnw.”
Mae’r cynllun yn mynd tu hwnt i wella urddas mislif drwy fynd i’r afael â’r llygredd plastig sydd mewn cynnyrch misglwyf hefyd. Bydd yr holl gynnyrch mislif a ddarperir drwy’r rhaglen yn cael eu gwneud o ddefnydd organig a bioddiraddadwy. Mae’r ffocws hwn ar gynaliadwyedd yn cyd-fynd â chenhadaeth Grace & Green a nod Llywodraeth Cymru i gynyddu’r cynnyrch heb blastig a ariennir drwy’r grant urddas mislif i o leiaf 90% erbyn 2026. Mae Grace & Green hefyd yn cynnig yr hawl am ddim i fannau cyhoeddus drwy stondinau “dewis a dethol”.
Dywed aelod o Gyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi derbyn bocs am ddim: "Dyma wasanaeth gwych sy’n danfon cynnyrch yn gyfrinachgar i’r tŷ. Rwyf wrth fy modd bod y cynnyrch yn fioddiraddadwy, bod modd ailgylchu’r pecynnau i gyd a bod y cynnyrch yn llyfn ac yn esmwyth. Mae’n hollbwysig nad yw genethod fy oedran i yn cael eu rhwystro gan dlodi mislif."
Lansiwyd y cynllun ym mis Mehefin ac mae unrhyw un dan 25 oed sydd â chod post Pen-y-bont ar Ogwr yn gymwys. Am ragor o wybodaeth ynghylch y rhaglen cynnyrch mislif am ddim neu i gael gwybod sut i gyfrannu, ewch i’n gwefan.