Hwb newydd i recriwtio gweithwyr cymdeithasol yn canolbwyntio ar gydbwysedd gwaith a bywyd
Poster information
Posted on: Dydd Llun 09 Ionawr 2023
Mae hwb newydd i recriwtio gweithwyr cymdeithasol wedi ei lansio heddiw (9 Ionawr) gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gan ganolbwyntio ar fanteision go iawn byw a gweithio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r ymgyrch 'Rhoi’r gofal i mewn i’ch gyrfa' yn amlygu'r cymorth sydd ar gael i staff gofal cymdeithasol yn yr awdurdod lleol i gynorthwyo cadw cydbwysedd gwaith a bywyd iach.
Mewn cyfres o ddarnau fideo, mae aelodau o staff, yn cynnwys y rhai sydd wedi adleoli yn yr ardal, yn amlinellu eu profiadau cadarnhaol o weithio yn sector gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol, a'r cyfleoedd maent wedi eu cael i'w cynorthwyo i gydbwyso eu bywyd personol a phroffesiynol.
Dywedodd Marissa, wnaeth adleoli o Lundain: "Yr hyn a’m denodd i Ben-y-bont ar Ogwr oedd y ffaith fy mod yn cael bod yn agos at yr arfordir, ac roedd hyblygrwydd yn fy rôl. Roeddwn yn gallu parhau i fwynhau gweithio’n rhannol gartref, a rhannol yn y swyddfa. Mae’r dull hybrid o weithio wedi apelio ataf yn fawr. ,Bellach mae fy nghydbwysedd bywyd a gwaith yn gymaint gwell, fel rhywun nad oedd yn dda iawn am gadw bywyd a gwaith ar wahân, rwyf nawr yn cael y cyfleoedd nad oedd ar gael i mi yn Llundain."
"Mae’n llawer haws i mi roi fy meiro i lawr, cau’r gliniadur, nôl y cŵn, a cherdded i lawr at y traeth. Mae’r wên sy’n dod dros fy wyneb o allu mynd allan i’r awyr agored a chael mynd ar lwybr yr arfordir yn hyfryd. Byddaf yn nofio dŵr agored bedair neu bum gwaith yr wythnos o leiaf nawr, felly gallaf fynd i nofio ben bore, cyn gwaith."
Dywedodd Joe, sydd wedi gweithio i sawl awdurdod lleol: “Mae'r mynediad i gyfleusterau yn rhyfeddol, ac mae'n gwneud fy swydd yn haws. Rwyf wedi fy mhlesio'n arw iawn, iawn, tu hwnt i fy nisgwyliadau. Un o'r pethau gorau ynghylch y tîm rwyf ynddo yw bod modd gwneud y daith i'r ysgol, rwy'n gallu cydbwyso fy nyddiadur ac rwy'n gwneud ymrwymiadau i fywyd go iawn, i fi fy hun, felly credaf fod Pen-y-bont ar Ogwr yn edrych ar ôl eu gweithwyr cymdeithasol."
"Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i fyw, ac fel y soniais, o ran swydd, gweithio i Ben-y-bont ar Ogwr oedd y penderfyniad gorau wnes i erioed. Os ydych o ddifri ynghylch cael gyrfa, dylech ystyried Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd preswylydd lleol, Alex, sy'n gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant i'r awdurdod: "Rwy'n ystyried fy hun yn lwcus iawn o fod wedi cael swydd sydd wrth fy modd yn fy nhref enedigol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. O fewn y tîm gwaith, mae pawb yn cefnogi ei gilydd, rydym yn dibynnu ar ein gilydd, rydym yn un teulu mawr."
"Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i fyw a gweithio, ac i unrhyw un sy'n meddwl adleoli yma, a derbyn swydd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, byddwn yn dweud wrthych am fynd amdani heb oedi."
Er bod yr ymgyrch yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cadw cydbwysedd gwaith / bywyd, mae hi hefyd yn hyrwyddo byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y gobaith o ddenu gweithwyr cymdeithasol i adleoli i'r ardal, ymysg cefnlen o brinder cenedlaethol o staff o fewn y sector.
Mae yna gyfleoedd diddiwedd i'r rhai sy'n dewis gweithio fel gweithiwr cymdeithasol gyda chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn enwedig i'r rhai all fod yn cael trafferth cynnal cydbwysedd bywyd a gwaith iach wedi'r pandemig. Mae'r ddelwedd o rôl gweithiwr cymdeithasol yn cael ei gysylltu â chamdybiaeth negyddol o lwyth achosion trwm ac oriau hynod o hir. Rydym yn ceisio herio'r ddelwedd hon ym Mhen-y-bont ar Ogwr, drwy gynnig cymorth llawn, gyda chyfleoedd hyfforddi a datblygu parhaus, cynnydd mewn gyrfa a hyblygrwydd lawn yn eich rôl.
Rydym yn lwcus i fyw mewn ardal mor hardd, gyda golygfeydd godidog o'r arfordir i'r dyffryn ar stepen ein drws. Mae gennym ysgolion a chymunedau gwych, ac rydym mewn lleoliad da ar goridor yr M4 gyda chysylltiadau cludiant gwych.
Byddem yn annog unrhyw un sy'n ystyried adleoli i wneud cais ar ein gwefan.
Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Cewch ragor o wybodaeth ynghylch manteision byw a gweithio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar dudalennau swyddi'r cyngor. Gellir dod o hyd i restr o swyddi gwag gwaith cymdeithasol ar dudalennau recriwtio gwaith cymdeithasol, a gallwch wylio fideos ein staff gwaith cymdeithasol ar ein sianel YouTube.