Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Hi Tide Inn ym Mhorthcawl yn cynnal ffair swyddi

Gwahoddir preswylwyr lleol sy’n chwilio am swydd newydd neu swydd wahanol i fynychu ffair swyddi a drefnwyd ar gyfer dydd Mawrth 7 Chwefror yn yr Hi Tide Inn, Porthcawl.

Wedi’i drefnu gan Dîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ochr yn ochr â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), mae’r digwyddiad yn addo cynnwys nifer o gyflogwyr mawr, o bob cwr o’r fwrdeistref sirol. Bydd gweithwyr proffesiynol yn y ffair swyddi yn tynnu sylw at yr ystod o swyddi sydd ar gael, yn darparu cefnogaeth i gwblhau ceisiadau swyddi neu ysgrifennu CVs, yn ogystal â thrafod unrhyw hyfforddiant perthnasol sydd ei angen ar gyfer rôl benodol.

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolion o’r gymuned leol gael y gefnogaeth y maent ei hangen i archwilio opsiynau swyddi.

Mae gennym nifer o fusnesau sefydledig yn rhan o’r digwyddiad, gan gynnwys Heddlu De Cymru, Gwasanaethau Addysgu Apollo, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, a llawer mwy. Mae mynychu’r ffair yn rhoi’r cyfle i gael cyngor a chefnogaeth werthfawr. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad hwn - canlyniad cydweithio llwyddiannus parhaus rhwng y DWP a Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr- gobeithiaf eich gweld chi yno!

Cynghorydd Neelo Farr, y Gweinidog Cabinet dros Adfywio

Am fwy o wybodaeth am y ffair swyddi, cysylltwch â Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ar  01656 815317 neu fel arall, e-bostiwch: employability@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y