Hamdden Halo yn cyrraedd rowndiau terfynol y Gwobrau Anawsterau Dysgu ac Awtistiaeth Cenedlaethol
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 16 Mehefin 2023
Mae rhaglen gwersi nofio sy’n ystyrlon o awtistiaeth Hamdden Halo wedi’i chydnabod am wneud gwersi nofio’n fwy hygyrch i blant ag anawsterau dysgu ac awtistiaeth.
Mae'r gwobrau’n dathlu ymdrechion rhagorol unigolion neu sefydliadau sy’n cynnig gofal arbennig i blant ag anableddau dysgu.
Wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Gwobr Cyfle Chwaraeon, mae gwersi nofio sy’n ystyrlon o awtistiaeth Hamdden Halo wedi’u sefydlu ers 2020, ac fel rhan o gydweithrediad â phartneriaid, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol Cymru a’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol a changen Pen-y-bont ar Ogwr a’r Rhanbarth.
Dywedodd Ryan Statton, Pennaeth Cymunedau Actif Hamdden Halo: “Rydym ar ben ein digon o gyrraedd rownd derfynol y wobr genedlaethol uchel ei bri hon. Rydym yn falch o fod wedi’n henwi ymysg sefydliadau eraill ledled y wlad sydd hefyd yn ymgymryd â gwaith arbennig. Byddwn yn cael gwybod am y canlyniad cyn bo hir - croesi bysedd"!
Dywedodd un rhiant: “Nid yw fy mab wedi cael profiadau da iawn gydag athrawon nofio yn y gorffennol, oherwydd nad ydynt wedi cael hyfforddiant ASD nac yn deall ei anghenion. Mae athrawon cwrs nofio awtistiaeth Halo yn arbennig, ac maent wedi tanio cyffro yn fy mab ar gyfer gwersi nofio.”
Mae'r galw cynyddol am y gwasanaeth poblogaidd hwn yn golygu bod proses gyfeirio a dethol ar waith er mwyn sicrhau mynediad teg a chyfartal i deuluoedd sy’n byw ag awtistiaeth.
Rydym mor falch o’n partneriaid yn Hamdden Halo. Mae’n hyfryd eu bod wedi'u cydnabod am eu gofal arbennig o blant ag anableddau dysgu ac awtistiaeth.
Wedi ennill cyllid gan elusen Plant Mewn Angen y BBC, mae staff yn mynd y tu hwnt i’r gofyn mewn perthynas â’r rhaglen - gan sicrhau bod gwersi nofio’n hygyrch, yn gynhwysol ac yn hwyl i’r plant.
Da iawn i’r holl staff yn Hamdden Halo - rydych yn cynnig gwasanaeth rhagorol!
Arweinydd y Cyngor, Huw David