Hafan naturiol i'w datblygu ar gae chwarae Heol-y-Cyw
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 14 Chwefror 2024
Drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, a’r bartneriaeth rhwng Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Cymuned Llangrallo Uchaf, mae ardal chwarae newydd ar gyfer natur a’r gymuned ar fin cael ei datblygu ar gae chwarae Heol-y-Cyw.
Mae'r cynllun yn cynnwys creu cynefin newydd sy'n cynnwys coetir gwlyb, blodau gwyllt, ac ardal o wlyptir. Bydd y gwlyptir yn cael ei greu trwy gyfeirio dŵr wyneb presennol i bwll arafu. Bydd hyn gwella amodau’r cae, yn ogystal â darparu cynefin gwlyptir gwerthfawr ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau, megis ystlumod, amffibiaid, adar, ac infertebratau.
Bydd y prosiect gwerth £150,000 hefyd yn cynnwys meinciau, meinciau picnic, llwybr newydd, a llwybr pren dros y gwlyptir. Bydd y cynllun yn cynnwys gwaith celf gan y cerflunydd Will Nash, ar ffurf colofn gwenyn, a fydd yn darparu cyfleoedd nythu hanfodol i wenyn unigol. Bydd y fenter yn cefnogi'r rhywogaeth hon, nad yw'n heidio nac yn perthyn i gytrefi, ond sy'n beilliwr pwysig iawn.
Rydym yn croesawu datblygiad yr ardal hon, sy’n addo cynnig noddfa i fywyd gwyllt a phobl sydd eisiau mwynhau’r amgylchedd naturiol – y gwrthwyneb perffaith i’r diwylliant cyflym yn yr ydym yn byw.
Ar hyn o bryd, mae tua 250 o rywogaethau o’r wenynen unigol yn y DU. Mae’r ardal hon yn cynnig cymorth i’w helpu i ffynnu. Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru a’n partneriaid am ganiatáu i’r cae chwarae yn Heol-y-Cyw gael ei drin mewn ffordd sydd â digonedd o fanteision amgylcheddol, yn ogystal â manteision o ran llesiant.
Hoffem roi sicrwydd i drigolion na fydd y cynllun plannu yn meddiannu’r holl fannau agored, bydd yr ardal yn parhau i gynnwys dwy lain a bydd digon o gaeau hamdden ar gyfer unrhyw weithgaredd anffurfiol.
Rydym hefyd ar hyn o bryd yn gweithio’n agos gyda Chlwb Rygbi Heol-y-Cyw, ac yn trafod y posibilrwydd o Drosglwyddo Asedau Cymunedol yn y caeau chwarae, pe bai’r clwb rygbi’n dymuno mynd ar drywydd hyn, ac os daw cyfleoedd ariannu ar gael.
Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd