Gwobrau’n talu teyrnged i ymrwymiad gofalwyr maeth yr awdurdod lleol
Poster information
Posted on: Dydd Iau 15 Mehefin 2023
Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth, cynhaliodd tîm maethu Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eu ‘Gwobrau Cydnabyddiaeth Gofal Maeth’ blynyddol yng Ngwesty’r Atlantic ym Mhorthcawl.
Cafodd gofalwyr maeth yr awdurdod lleol gwmni’r tîm maethu ac uwch swyddogion y cyngor i ddathlu ymrwymiad a gwaith caled cymuned gofal maeth anhygoel y fwrdeistref sirol.
Yn ystod y digwyddiad, cyflwynwyd tystysgrifau cydnabod gwasanaeth hir i ofalwyr maeth ac unigolion cysylltiedig, i gydnabod y nifer helaeth o flynyddoedd mae carfan maethu awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn cynnig gofal o safon i blant ledled y fwrdeistref sirol.
Cafodd y mynychwyr bryd o fwyd i ddathlu, a chafwyd adloniant gan y canwr Gareth Taylor a Chôr Meibion Maesteg, wrth i’r mascot Toby the Foster Bear gyrraedd i dynnu lluniau.
Mynychwyd y gwobrau gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw David, a’r Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie y gwobrau er mwyn cyflwyno rhai o’r gwobrau i'r enillwyr haeddiannol, a gafodd eu cydnabod am eu hymrwymiad i faethu.
Rydym mor ddiolchgar i chi gyd am gynnig amgylchedd hapus a sefydlog i’n plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Diolch ichi am eich ymrwymiad a’ch natur feithringar barhaus, rydych yn cynnig y gofal gorau i’r plant rydych yn eu maethu, gyda’r cyfle i gynnal cysylltiadau â’u rhwydweithiau lleol, teulu, ffrindiau a chymunedau.
Mae cynnig amgylchedd teuluol lle gall pob person ifanc ddysgu, ffynnu, a datblygu ei botensial llawn yn her rydych wedi’i chroesawu - felly ar ran y cyngor, a fi fy hun, rwyf eisiau dweud diolch o waelod calon i chi oll!
Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd
Ymysg yr unigolion a oedd yn cael eu hanrhydeddu oedd:
Sharon a Kerry ar gyfer ‘Gwobr Deall Plant yn eu Harddegau’
Mae’r wobr hon yn cydnabod gofalwyr maeth sy’n gofalu a chynorthwyo ein pobl ifanc mwyaf gofidus. Drwy ddod atynt gyda chyfuniad o onestrwydd didwyll, disgyblaeth gadarn, a bwriadau teg, maent yn cynorthwyo pobl ifanc i dorri’r cylch o ymddygiad negyddol fel bod modd iddynt wirioneddol ffynnu.
Lorraine a John (unigolion cysylltiedig) a Gwen (cyffredinol) ar gyfer ‘Gwobr Mary Poppins’ yn symbol o’r hud a lledrith sydd tu ôl i fywyd bob dydd a pha mor barod yw’r gofalwr maeth hwn i wynebu unrhyw beth.
Gwobr ‘Tu Hwnt i’r Disgwyliadau’
Mae tu hwnt i’r disgwyliadau yn deillio o’r syniad am ymddygiad arwrol yn ystod gweithred filwrol pan mae milwr yn mynd tu hwnt i’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohono. Mae’n cydnabod y cymorth rhagorol maent yn ei gynnig i blant dan eu gofal, yn rhoi ymdrech ychwanegol, yn enwedig mewn modd sy’n mynd tu hwnt i’r disgwyliadau.
Gwobr ‘Ymrwymiad Unigolyn Cysylltiedig’ - yn cynrychioli ymrwymiad aelodau o’r teulu, er mwyn sicrhau bod plant yn aros o fewn eu system deuluol. Mae gofal unigolion cysylltiedig yn galluogi plant i aros yn eu huned deuluol, sy’n cadw popeth mor gyfarwydd â phosibl iddynt.
Gwobrau Ymddeoliad:
Val a Rob (44 mlynedd)
Sharon a Jeff (37 mlynedd)
Glynis (17 mlynedd)
Mae’r wobr hon yn cydnabod ymrwymiad ac ymroddiad gofalwyr maeth i’r gwasanaeth a’r cymorth maent wedi‘i gynnig i blant yn ystod eu gyrfa hir yn maethu.
Lynne, Cath a James, a Chris a Jerry ar gyfer ‘Gwobr y Cynghorydd’
Enwebwyd gofalwyr maeth a ystyriwyd yn haeddiannol gan Weithwyr Cymdeithasol Goruchwyliol. Dewiswyd y tri terfynol gan y Cynghorydd.
Vicky a Paul ar gyfer ‘Gwobr Clive Richards’
Gwobr goffa i ofalwr cyswllt gwerthfawr, sy’n uchel ei barch ledled y gwasanaeth maethu.
Dywedodd Theresa Stenner, Gofalwr Maeth a fynychodd y seremoni: “Roedd yn fraint cael bod yn rhan o heddiw, hynod emosiynol ond diweddglo hyfryd i’r diwrnod. Diolch, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr!”
Os ydych wedi cael eich ysbrydoli gan ein gofalwyr maeth heb eu hail, ac yn ystyried a allwch chi ddechrau maethu o bosib, ewch i: https://penybont.maethucymru.llyw.cymru/