Gwnewch y Nadolig yn amser hapusach drwy gyfrannu at Apêl Sion Corn
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 29 Hydref 2024
Rydym yn gofyn i bobl ar hyd a lled Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a wnan nhw helpu i ddod â gwên i blentyn neu berson ifanc bregus y Nadolig hwn drwy gyfrannu at Apêl Sion Corn eleni.
Unwaith eto, mae ein hadran Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn cefnogi’r apêl flynyddol am deganau ac anrhegion i’r rhai na fyddai o bosib yn cael anrheg i’w hagor ar fore Nadolig fel arall.
Mae rhoddion arian yn ddelfrydol er mwyn prynu anrhegion sy’n addas i blant a phobl ifanc o'u geni hyd at 21 mlwydd oed.
Mae gwneud cyfraniad yn hawdd, gallwch roi ar-lein ar dudalen Just Giving pAwen neu gall ein partneriaid mewn canolfannau Hamdden a phyllau nofio Halo hefyd dderbyn cyfraniadau ariannol a chyda cerdyn ar eu tiliau.
Os byddai'n well gennych chi roi cyfraniad o anrheg, tybed a wnewch chi fynd â'ch anrheg newydd, heb ei lapio, mewn bag rhodd i'r pwyntiau gollwng dynodedig canlynol rhwng dydd Llun 18 Tachwedd a dydd Gwener 29 Tachwedd 2024:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr
- Llyfrgell y Pîl
- Llyfrgell Porthcawl
- Canolfan Chwaraeon Maesteg
- Canolfan Fywyd Cwm Garw
Mae oriau agor y llyfrgelloedd ar gael ar wefan Awen.
Bydd gwirfoddolwyr yn mynd ati eto i ddidoli’r anrhegion yn ôl grwpiau oed priodol a’u lapio’n barod i’w danfon i gartrefi plant a phobl ifanc ledled y fwrdeistref sirol.
Bydd tudalen Just Giving ar gyfer Apêl Sion Corn yn cau ddydd Gwener 13 Rhagfyr 2024.
Er y bydd nifer ohonom yn dechrau bod yn gyffrous ar gyfer tymor y Nadolig, i lawer o deuluoedd gall y Nadolig fod yn amser sy'n achosi straen a gor-bryder ac yn amser trist, gyda chostau byw sy'n cynyddu a'r caledi ariannol mae pobl yn ei wynebu, mae yna gyfran fawr o deuluoedd yn ein cyngor bwrdeistref sydd angen ein cefnogaeth y gaeaf hwn.
Mae ein Hapêl Sion Corn yn dod ag ychydig o gysur a llawenydd i blant a phobl ifanc led-led y fwrdeistref sirol a fyddai, heb ein cymorth ni, heb unrhyw beth ar Ddiwrnod Nadolig. Mae ein timau gwych o fewn y gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'n partneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Hamdden Halo, unwaith eto, er mwyn eich annog chi i gyfrannu at ein Hapêl Sion Corn ar gyfer 2024
Os ydych chi'n gallu rhoi cyfraniad bychan neu ychwanegu rhodd ychwanegol at eich rhestr siopa eleni, a wnewch chi ystyried rhoi er mwyn gwneud y Nadolig yn amser hapusach i blant lleol.
Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie