Gweinidog yn ymweld â Maesteg i weld y cynnydd mewn ailddatblygiad nodedig
Poster information
Posted on: Dydd Llun 16 Hydref 2023
Ymwelodd Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, â Maesteg yn ddiweddar i weld y cynnydd yn ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg.
Aeth y Gweinidog, a fynychodd Ysgol Gynradd Plasnewydd, Maesteg, ar daith i weld y gwaith adeiladu a'r datblygiadau hyd yn hyn wrth i'r penseiri penodedig Purcell UK, y contractwyr Knox and Wells a'r swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Ymddiriedolaeth Diwylliant Awen siarad am y cynlluniau manwl ar gyfer pob rhan.
Mae'r adeilad yn cael ei ailddatblygu'n sylweddol yn y buddsoddiad mwyaf mae canol tref Maesteg wedi ei weld mewn degawdau, sy'n canolbwyntio ar adfer yr adeilad rhestredig Gradd II i'w hen ogoniant, a'i wella gydag atriwm gwydr newydd, theatr stiwdio a sinema, caffi a bar mesanîn, canolfan dreftadaeth a llyfrgell fodern.
Ar y lefel is, mae'r ardal farchnad dan do flaenorol, yn cael ei thrawsnewid yn llwyr i ardal gyhoeddus agored gyda theils gwydr, conglfeini brics terracotta a gwaith carreg.
Bydd y lle agored newydd hwn yn cynnwys llyfrgell i blant, wedi ei chynllunio ar y cyd ag ysgolion cynradd lleol ac ardal gaffi wedi ei chynllunio i ddangos harddwch naturiol y cwm, ei dirwedd fynyddig a'i dreftadaeth gyfoethog o gloddio haearn a glo.
Wrth i'r gwaith fynd rhagddo'n adfer y neuadd gyngerdd odidog, yr adnewyddu'r llawr gwaelod a chreu'r estyniad gwydr gyda lle ar gyfer stiwdio newydd, mae manylder arbennig wedi ei roi wrth ddatgelu a chadw nodweddion treftadaeth y neuadd, sy'n cynnwys y pyrth bwaog brics, teils, cornisiau a cholofnau.
Mae'r datblygiad diweddaraf yn cynnwys gosod paneli gwydr i'r atriwm newydd, lle sydd wedi ei greu'n glyfar i ymestyn cyswllt strwythurol o'r adeilad i'r gymuned, mewn cysyniad dylunio agored a chroesawgar.
Ni allwn danseilio maint a chymhlethdod y prosiect adfywio uchelgeisiol hwn - nid dim ond adfywio adeilad hanesyddol a wnawn.
Rydym yn cadw, gwella, ac yn adeiladu hwb celfyddydol a diwylliannol yn ofalus ar gyfer pob cenhedlaeth o'r dref a'r cwm cyfagos i'w fwynhau.
Mae neuadd y dref yn cynrychioli calon y dref a'n nod yw cadw'r galon hon yn curo fel conglfaen y gymuned hon ar gyfer y ganrif nesaf a thu hwnt.
Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Dai
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: "Roedd yn wych gweld y cynnydd sydd wedi digwydd yn y prosiect adfywio hwn.
"Gall y datblygiad uchelgeisiol hwn fod o fudd i'r gymuned gyfan, gan ddarparu rhywle i bobl ddysgu, gweithio a chymdeithasu ag eraill. Rwy'n falch o glywed bod ysgolion cynradd lleol wedi cael mewnbwn i'r dyluniadau ac rwy'n edrych ymlaen at ddychwelyd pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau."
Gallwch weld fideo o ymweliad y Gweinidog ar sianel YouTube y cyngor, sy'n cynnwys cipolwg ar y gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru yn cynnwys CADW, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Cyngor Tref Maesteg, y Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Davies ac Ymddiriedolaeth Pilgrim.