Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwasanaeth torri glaswellt mewnol yn symud gam ymlaen

Mae cynlluniau Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu gwasanaeth torri glaswellt mewnol wedi symud gam ymhellach wedi i'r Cyngor Llawn gymeradwyo'r cyllid angenrheidiol. 

Mae'r symudiad yn rhan o ymrwymiad y cyngor i weithio mewn cydweithrediad a darparu dull gweithredu hirdymor er mwyn cwrdd ag anghenion preswylwyr ar draws y fwrdeistref sirol.

Yn gynharach eleni, fe wnaeth y Cabinet gymeradwyo cynlluniau i ddod â'r gwasanaeth yn ôl yn fewnol a bydd y cyllid cyfalaf o £340,000 sydd nawr wedi'i gytuno arno yn galluogi i offer hanfodol gael eu prynu mewn da bryd ar gyfer y dyddiad cychwyn yng ngwanwyn 2025.   

Mae'r gwasanaeth yn gyfrifol am dorri glaswellt ar dir sy'n eiddo i'r cyngor megis rhai llefydd chwarae, lleiniau canol, ymylon priffyrdd, meysydd chwarae a mannau cyhoeddus agored.

Rydym yn benderfynol o ddarparu'r gwasanaethau gorau posib ac mae'n amlwg o'ch ymwneud gyda phreswylwyr bod gwelliannau i waith cynnal a chadw ein mannau gwyrdd a'n hamgylchedd yn flaenoriaeth i nifer o gymunedau ledled y fwrdeistref sirol.

Bydd yr arian hwn yn sicrhau ein bod yn gallu darparu gwasanaeth sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac a fydd yn gynaliadwy am sawl blwyddyn i ddod. Bydd hefyd yn ein galluogi ni i adeiladu ar ein gwaith i wella ac amddiffyn bioamrywiaeth mewn amrywiaeth o leoliadau.

Bydd y gwasanaeth newydd hefyd yn rhoi mwy o reolaeth a hyblygrwydd i'r tîm a fydd yn helpu gyda ffactorau megis cynllunio a chydnerthedd hirdymor.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Chwilio A i Y