Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ar restr fer ar gyfer dyfarniad gofal bugeiliol eithriadol
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 05 Tachwedd 2024
Yn ddiweddar, daeth Tyrone Hughes, Swyddog Addysg Ôl-16, Hyfforddiant a Chyflogaeth gyda Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn un o bump a gyrhaeddodd y rhestr fel ar gyfer Cyfraniad Eithriadol i Ofal Bugeiliol gyda Chymdeithas Genedlaethol Addysg Fugeiliol (NAPCE).
Tyrone oedd yr unig un oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol nad oedd wedi'i leoli mewn darpariaeth addysgol, a daeth ei enwebiad yn dilyn canmoliaeth o sawl cyfeiriad gan gydweithwyr a ieuenctid fel ei gilydd am ei natur ddiymhongar, ofalgar a'i ymrwymiad i bobl ifanc drwy ei rôl arweiniol gyda'r Rhaglen Adeiladu Sgiliau - cynllun a grëwyd i ddatblygu sgiliau ymarferol, gan gynnwys gwaith saer ac adeiladu, gan ddarparu pobl ifanc gyda phrofiad gwaith a sgiliau cyflogadwyedd.
Mae'r rhaglen yn ymgymryd â phrosiectau sy'n cyfrannu at les y gymuned ac yn aml maent yn cynnwys strwythurau chwarae adeiladu mewn ysgolion, gyda'r prosiect diweddaraf ynghlwm wrth greu lle chwarae er cof am blentyn lleol.
Mae Catherine Evans, Rheolwr Gweithredol gyda'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cynnig mewnwelediad i'r gwerthoedd wnaeth arwain at enwebiad Tyrone ar gyfer y wobr uchel ei bri. Meddai: "Yn ogystal â'r gwaith mae Tyrone yn ei gwblhau gyda phobl ifanc yn y Prosiect Adeiladu Sgiliau er mwyn gwella eu hunan-werth a dysgu sgiliau ymarferol, hefyd yn gweithredu fel mentor a model rôl i nifer.
"Mae Tyrone wastad yn hapus i wneud mwy na'r gofyn yn ei rôl er mwyn sicrhau bod plant yn cael eu cefnogi. Mae hyn wedi cynnwys mynd â nhw i'w diwrnod cyntaf yn y gwaith (hyd yn oed y tu allan i oriau craidd), eu cludo i fynychu apwyntiadau a'u cynorthwyo i symud rhwng tai drwy drosglwyddo eu heiddo yn ei fan. Mae Tyrone wastad yn hapus i wneud hyn, ac mae hyd yn oed yn cynorthwyo gyda'r pethau yma ar gyfer plant nad ydyn nhw'n rhan o'i lwyth gwaith.
"Mae'r bobl ifanc sy'n gweithio gyda Tyrone yn gallu ymdeimlo ag o ac ymddiried ynddo. Maent yn ymateb yn well i'w dryloywder a'i agwedd anfeirniadol. Fe wnaeth un person ifanc, oedd yn defnyddio sylweddau'n drwm, leihau ei ddefnydd o sylweddau fel na fyddai'n mynychu sesiynau gyda Tyrone dan eu dylanwad; fe wnaeth hyn o ganlyniad i bryderon diogelwch oedd wedi eu hamlygu iddo. Nid oedd wedi gwneud hyn ar gyfer unrhyw weithwyr proffesiynol eraill oedd yn gweithio gydag o, a datganodd y person ifanc eu bod wedi gwneud hyn er parch i Tyrone, sy'n dangos y perthnasoedd positif mae'n eu creu."
Yn unol â'i enw da am ei wyleidd-dra, meddai Tyrone am ei enwebiad: "Nid amdanaf i na'r gwasanaeth mae'r enwebiad ar gyfer y dyfarniad hwn, mae'n gydnabyddiaeth o'r gwaith caled mae'r bobl ifanc yn ei roi i mewn,"
Meddai'r Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Addysg a Ieuenctid, “Tyrone Hughes, rydyn ni mor lwcus o'ch cael yn gweithio gyda ni ac a'r plant ar hyd a lled y fwrdeistref sirol sydd eich angen chi. Rydych chi'n gaffaeliad i'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a dylech fod yn hynod o falch, nid yn unig am i chi gael eich rhoi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr mor arbennig, ond oherwydd bod gan bawb sy'n eich adnabod gymaint o feddwl ohonoch.
"Wnewch chi fyth wybod cymaint mae eich dylanwad positif wedi'i gael ar y bobl ifanc sy'n rhan o'r Rhaglen Adeiladu Sgiliau, gan fod effeithiau eich caredigrwydd a'ch ymrwymiad yn ymledu mewn ffordd nad oes modd ei ddirnad yn llawn.
"Da iawn am gyflawniad ffantastig sy'n cydnabod yr ymrwymiad rydych chi'n ei gynnig gorff ag enaid gyda'ch rôl."
Llun: Un o greadigaethau'r Rhaglen Adeiladu Sgiliau