Gwasanaeth Cam-drin Domestig Assia – yr unig wasanaeth a gaiff ei redeg gan gyngor i ennill achrediad
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 03 Gorffennaf 2024
Mae Gwasanaeth Cam-drin Domestig Assia, a roddir ar waith gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cael ei gydnabod am gynnig darpariaeth wych ar ôl iddo ennill achrediad ‘Leading Lights’ SafeLives, sef dangosydd ansawdd ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig a gydnabyddir ledled y DU.
Yn ogystal ag Assia, mae DASU (Uned Ddiogelwch Cam-drin Domestig) a Gorwel, sef darparwyr trydydd sector yng Ngogledd Cymru, wedi ennill yr achrediad clodfawr hwn.
Elusen yw SafeLives, ac mae’n gweithio gyda sefydliadau ledled y DU i drawsnewid yr ymateb i gam-drin domestig er mwyn rhoi diwedd ar drais domestig. Y rhaglen achredu ‘Leading Lights’ yw’r gyntaf o’i bath yn y DU ac fe’i crëwyd gan arbenigwyr yn y maes. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu gwasanaeth o’r radd flaenaf gydag ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau, gweithio ar draws asiantaethau a darparu adnoddau dynol a threfniadau llywodraethu. Trwy gadw at safonau ‘Leading Lights’, dangosir bod yr ymarfer yn effeithiol, yn gynaliadwy ac, yn bwysicach na dim, yn ddiogel.
Pleser o’r mwyaf yw dyfarnu achrediad ‘Leading Lights’ SafeLives i Assia.
Mae ‘Leading Lights’ yn arwydd o ansawdd ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig, ac mae Assia wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i ddarparu gwasanaeth gwych i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Hoffem ganmol aelodau’r tîm a diolch iddyn nhw am eu gwaith caled a’u hymroddiad.
Frances Keel, Ymgynghorydd Ymarfer ‘Leading Lights’
Medd Carys Lord, Prif Swyddog Cyllid, Tai a Newid Hinsawdd: “Rydym wrth ein bodd bod Gwasanaeth Cam-drin Domestig Assia wedi ennill yr achrediad. Mae’n cydnabod ymrwymiad, angerdd a chymhelliant y tîm gofalgar hwn. Ar ôl proses asesu lafurus, mae’r anrhydedd hwn yn gwbl haeddiannol!
“Mae achrediad ‘Leading Lights’ Safelives yn arwydd o wasanaeth o’r radd flaenaf yn y maes cam-drin domestig, a chaiff ei gydnabod ledled y DU.
“O blith y tri gwasanaeth achrededig yng Nghymru, ein gwasanaeth ni yw’r unig un a gaiff ei redeg gan gyngor. Fel gwasanaeth ‘Leading Lights’, gallwn roi sicrwydd i deuluoedd lleol y byddan nhw’n cael y ddarpariaeth a’r cymorth gorau posibl. Hoffwn longyfarch aelodau’r tîm am bopeth maen nhw wedi’i gyflawni – rydym mor lwcus o’ch cael!”