Gwaith yn dechrau'n fuan ar doriadau tân Comin Lock
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 14 Chwefror 2023
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn dechrau gweithio ar Gomin Lock ym Mhorthcawl yn fuan i ailddiffinio a lledu'r toriadau tân sydd eisoes yn bodoli.
Gofynnir i bobl fod yn ofalus wrth ymweld â'r safle'r wythnos nesaf, i gadw cŵn ar dennyn a chynnal pellter diogel oddi wrth y peirianwaith wrth i waith fynd rhagddo.
Mae Gwarchodfa Natur Leol Comin Lock yn dechrau lle roedd promenâd gwreiddiol Porthcawl yn gorffen ac mae'n ymestyn i draeth Rest Bay. Mae'n cynnal nifer fawr o adar, glöynnod byw a blodau gwyllt.
Ar ôl nifer o danau dros y blynyddoedd diweddar, ynghyd â hafau eithriadol o boeth, bu'n rhaid torri toriadau tân yn y cynefinoedd prysgwydd, er mwyn cyfyngu ar effeithiau a lledaeniad tanau posibl yn y dyfodol.
Mae'r toriadau hyn yn helpu i gyfyngu ar effaith tanau, lleihau faint o gynefinoedd prysgwydd sy’n cael eu colli a chyflymu'r broses ailwladychu prysgwydd.
Yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 20 Chwefror, bydd y gwasanaeth tân yn ail ddiffinio a lledu'r toriadau tân sydd eisoes yn bodoli cyn dechrau'r tymor nythu.
Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick
Ychwanegodd Chris Deacon, Rheolwr Gwylio Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Byddwn yn defnyddio offer torri arbenigol ar ffurf ffust robotig sy'n cael eu rheoli o bell, sy'n cael ei defnyddio i gyfyngu ar yr effaith ar gynefin ac i reoli tanau gwyllt."