Gwaith yn ail-ddechrau ym Mhentref Llesiant Sunnyside
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 22 Mawrth 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch o glywed y bydd gwaith adeiladu yn ail-ddechrau er mwyn codi canolfan gofal iechyd newydd sbon a 59 o dai fforddiadwy dafliad carreg oddi wrth ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn nes ymlaen yn y mis hwn.
Mae Linc Cymru wedi penodi cwmni o Gymru, sef Wynne Construction, i gwblhau’r gwaith ym Mhentref Llesiant Sunnyside, sy’n cael ei ddatblygu ar hen safle swyddfeydd Sunnyside y cyngor a hen lys ynadon y dref.
Dechreuodd y gwaith ar y ganolfan tri llawr newydd yn 2021, ond bu’n rhaid rhoi’r gorau iddi wedi i'r contractwr ar y pryd fynd i ddwylo gweinyddwyr, gan orfodi Linc Cymru i ddechrau proses gaffael newydd a chwilio am gontractwr arall sy’n meddu ar brofiad priodol o ddatblygu adeiladau gofal iechyd a thai.
Rwy’n hynod falch o weld bod gwaith yn ail-ddechrau ar ddatblygu’r cyfleuster newydd hwn yn y gymuned.
Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd y safle uchel ei broffil hwn yn cynnig 59 o dai fforddiadwy mawr eu hangen, canolfan gofal iechyd yn cynnwys ystafelloedd ymgynghori a thrin, meddygfa meddyg teulu, uned ddeintyddol arbenigol a chyfleusterau eraill a fydd yn helpu i ddatblygu cymuned fywiog, gynaliadwy yn ardal canol y dref.
Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio
Linc Cymru sy’n gyfrifol am gwblhau’r prosiect, a hynny mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a chyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru.