Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith uwchraddio mannau chwarae plant wedi’i gwblhau yn barod ar gyfer gwyliau ysgol

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae tîm Mannau Gwyrdd y cyngor wedi bod yn gweithio gyda’r contractwyr arbenigol, Sutcliffe Play Ltd a Play and Leisure Ltd ar atgyweirio ac adnewyddu mwy nag 20 o fannau chwarae i blant ar draws y fwrdeistref sirol, gyda rhai meysydd chwarae eisoes ar agor a mwy ar fin agor yr wythnos nesaf.

Mae gwaith uwchraddio man chwarae Caeau Chwarae Newbridge bellach wedi'i gwblhau, yn dilyn ychydig o oedi oherwydd cymhlethdodau annisgwyl gyda sylfaen yr ardal dywod a'r ffens o'i hamgylch. Mae hyn bellach wedi'i ddatrys ac yn dilyn arolygiad annibynnol, mae bellach wedi cael caniatâd i ailagor i'r cyhoedd ei mwynhau.

Mae’r ardal ar ei newydd wedd bellach yn cynnwys cylchfan hygyrch newydd ei dylunio, rhwyd, ramp a llithren, ynghyd â phibellau cerddorol, panel posau, dringwr drwy gylchoedd a llawer mwy.

Mae’r gwaith uwchraddio ym man chwarae’r plant yn Fox Fields ym Mracla bellach wedi’i gwblhau a disgwylir i’r parc fod ar agor i’w ddefnyddio heddiw (dydd Iau 18 Gorffennaf).

Hefyd, mae’r man chwarae i blant yn Ysgol Gynradd Bracla bron wedi’i gwblhau, a disgwylir iddo agor ddiwedd yr wythnos nesaf.

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw mannau chwarae awyr agored am ddim er iechyd a lles plant a phobl ifanc leol.

Rydym wrth ein bodd yn gallu cyhoeddi ein bod yn ailagor ein parciau chwarae yn dilyn rhaglen atgyweirio ac adnewyddu yr oedd dirfawr angen amdani.

Yn enwedig mewn pryd ar gyfer gwyliau haf yr ysgol ac rydym yn croesi ein bysedd y bydd y tywydd yn gwella mewn pryd i’n plant a’n pobl ifanc fwynhau’r cyfleusterau newydd!

Cynghorydd Paul Davies, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

Mae'r holl safleoedd wedi cael eu harolygu a'u pasio gan Arolygydd Blynyddol Annibynnol yr RPII a bellach yn ôl ar agor i'r cyhoedd a theuluoedd eu mwynhau.

Cyhoeddir rhagor o fanylion am ailagor mannau chwarae pellach yn fuan.

Arweinydd y Cyngor, John Spanswick gyda'r Cynghorydd Steven Easterbrook ym man chwarae Caeau Newbridge
Cylchfan hygyrch yng Nghaeau Newbridge
Siglenni yng Nghaeau Newbridge

Chwilio A i Y