Gwaith marchnata ar y gweill wrth i’r broses o adfywio Ystad Ddiwydiannol Heol Ewenni fynd rhagddi
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 27 Chwefror 2024
Mae cynlluniau i drawsnewid ystad ddiwydiannol anghyfannedd ym Maesteg a’i throi’n gymdogaeth gynaliadwy ‘defnydd cymysg’ yn parhau i fynd rhagddynt, ac yn awr mae gwaith marchnata ar y gweill i hyrwyddo’r safle ymhlith datblygwyr.
Mae Ystad Ddiwydiannol Heol Ewenni wedi bod yn wag ers degawd a mwy, ond yn ddiweddar cafwyd caniatâd cynllunio amlinellol gan y cyngor ar gyfer 201 o unedau preswyl, hwb menter/cyflogadwyedd, mannau agored i’r cyhoedd a mannau manwerthu, a nodwyd y gellid mynd i’r afael â’r holl waith cysylltiedig a’r holl waith peirianneg yn amodol ar lofnodi cytundebau.
Hefyd, cafwyd cyllid gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i ymgymryd â rhaglen waith ar gyfer paratoi’r safle i’w ddatblygu. Mae proses dendro’n cael ei chynnal ar hyn o bryd ar gyfer y gwaith hwn. Disgwylir i’r broses hon gael ei chwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae’r prosiect yn rhan o Gynllun Datblygu Lleol y cyngor ac mae strategaeth wedi’i llunio er mwyn sicrhau y bydd yn bodloni anghenion lleol o ran tai, cyflogaeth a thrafnidiaeth.
Mae’r safle tir llwyd hwn a gliriwyd – y safle mwyaf o’i fath yng nghymoedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – yn cynnwys 16.31 acer, ac mae ar gael i’w werthu.
Mae’n rhan o ardal gyfunol fwy sy’n gyfanswm o 19.03 acer. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dal gafael ar y tir sy’n weddill, a bydd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cyfnewidfa drafnidiaeth a hefyd ar gyfer cyflogaeth.
Mae’r datblygiad hwn yn enghraifft arall o’n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y fwrdeistref sirol. Mae modd i brosiectau trawsnewidiol fel y prosiect hwn gael effaith gadarnhaol ar y gymuned am genedlaethau i ddod.
Mae camau cynllunio’r prosiect wedi bod ar droed ers sawl blwyddyn ac mae llawer o waith wedi’i wneud eisoes i sicrhau bod yr uwchgynllun yn ymdrin â’r holl agweddau er mwyn adlewyrchu’r seilwaith modern y dymunwn ei greu. Fel rhan o hyn, rydym hefyd yn awyddus i greu cartrefi cynaliadwy – rhywbeth sy’n arwydd pellach o’n hymrwymiad i’r amgylchedd.
Un o nodau hirdymor y cyngor yw gwneud yn fawr o botensial y safle hwn ac rydw i’n llawn cyffro o weld cynnydd y prosiect a’r holl fanteision economaidd a chymdeithasol a ddaw yn ei sgil i Gwm Llynfi a Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei chyfanrwydd.
Medd y Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio:
Mae’r safle ar gael ar gyfer tendr anffurfiol. Rhaid cyflwyno unrhyw gynigion trwy gyfrwng yr asiant erbyn hanner dydd, dydd Iau 11 Ebrill 2024. I gael rhagor o wybodaeth am y broses dendro, cysylltwch ag Asiantiaid Eiddo Savills ar +44 (0) 2920 368 900.