Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith i fynd i'r afael â choed ynn sy'n marw ym Mynydd Bracla i ddechrau

Gan gychwyn ddydd Llun 24 Mehefin 2024, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dechrau ar y gwaith o waredu coed sy'n dioddef o'r afiechyd Gwywiad yr Onnen (ADD).

Mae'r cyngor wedi adnabod ardal o Goedwig Mynydd Bracla, ar hyd cefn Lark Rise a Rhodfa Hazel Tree, lle mae nifer o goed ynn yn dioddef gyda ADD a bydd angen eu torri i lawr, a gwaredu'r pren.

Gwywiad yr Onnen yw'r afiechyd coed mwyaf dinistriol ers afiechyd Llwyfen yr Isalmaen a laddodd 60 o goed llwyfen yn y DU yn ystod dau epidemig yn yr 1920au a'r 1970au. Mae coed sydd wedi'u heintio yn gwanhau dros amser, gan beri risg i ddiogelwch, gyda changhennau'r coed yn disgyn ar lwybrau troed, ffyrdd ac eiddo.

Mae angen i raddfa'r risgiau iechyd a diogelwch a achosir gan Afiechyd Gwywiad yr Onnen gael ei rheoli'n effeithiol er mwyn lleihau unrhyw risgiau i bobl neu eiddo yn yr ardal.

Mae tîm Mannau Gwyrdd y cyngor wedi ymgymryd â'r canlynol:

  • Mae arolygon diogelwch coed wedi eu cynnal er mwyn adnabod unrhyw waith a allai fod ei angen o fewn yr ardaloedd Mannau gwyrdd.
  • Lle mae coed yn achosi risg potensial i'r cyhoedd, mae trefniadau yn cael eu rhoi ar waith er mwyn cael gwared ohonynt. 
  • Lle mae coed wedi cael eu gwaredu, cynigir bod aildyfiant naturiol yn digwydd, lle bynnag y bo'n bosib, yn arbennig felly mewn coedwigoedd.
  • Mae'n bosib y bydd angen ailblannu dethol mewn rhai lleoliadau penodol, gydag ymdrechion yn cael eu rhoi ar waith i chwilio am ariannu posib ar gyfer hyn.

Bydd peiriannau coedwigo trwm yn cael eu cyflwyno o Ger y Coed a byddant yn teithio ar hyd yr ardal glaswellt i mewn i'r coetir ym mhen draw Hunter Ridge. Bydd mynediad yn cael ei dorri drwy'r coetir er mwyn caniatáu i'r peiriannau gael mynediad i gefn Lark Rise.

Mae'n wirioneddol drist gweld faint o goed sydd wedi cael eu heffeithio gan afiechyd Gwywiad yr Onnen ac sydd angen cael eu gwaredu. Does dim modd osgoi'r gwaith, ac rydym yn gweithio gyda'n contractwyr er mwyn sicrhau bod cyn lleied â phosib o amhariad.

Mae'r gwaith wedi'i gynllunio fel ei fod yn cymryd rhwng pedair a chwe wythnos i'w gwblhau, a bydd gan gontractwyr feddiant o'r safle gan gadw'r ardal yn ddiogel yn ystod y diwrnod gwaith.

Bydd gofyn i'r gymuned ufuddhau i bob arwydd a chyfarwyddiadau i'w cadw hwy a'r gweithwyr yn ddiogel tra mae'r gwaith hwn yn digwydd. Mae'r Gwasanaeth Mannau Gwyrdd yn ymddiheuro ymlaen llawn am unrhyw anghyfleuster a achosir yn ystod y gwaith.

Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Cymunedau'r Cyngor

Am ragor o wybodaeth am Afiechyd Gwywiad yr Onnen, ewch i: https://www.rhs.org.uk/disease/ash-dieback

Chwilio A i Y