Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith i ddechrau ar ddiweddariadau ardal chwarae plant

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar yn datgan bod dros 20 o ardaloedd chwarae ledled y fwrdeistref sirol wedi cael eu clustnodi ar gyfer gwaith adnewyddu, mae disgwyl i waith gychwyn yn rhai o'r parciau dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Mae disgwyl i waith uwchraddio gychwyn yn ardaloedd chwarae plant Fox Fields ym Mracla, a’r adran chwarae plant bach yn Heol y Goedwig, ar 3 Mehefin, a disgwylir i’r gwaith orffen ddiwedd mis Mehefin.

Disgwylir i waith ddigwydd yn ardal chwarae Pen y Banc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 10 Mehefin, a disgwylir i’r gwaith orffen ar 5 Gorffennaf 2024.

Bydd gwaith yn dechrau yn ardal chwarae Ysgol Gynradd Bracla a Jubilee Crescent ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 1 Gorffennaf, a disgwylir i’r gwaith orffen ar 26 Gorffennaf 2024.

A bydd gwaith tir ym mharc chwarae Waunllwyd, Nantymoel yn dechrau wythnos nesaf, a disgwylir i offer newydd gael ei osod ar 3 Mehefin 2024.

Disgwylir i waith ar Gaeau Chwarae Newbridge, a ddechreuodd fis diwethaf, gael ei gwblhau ar 7 Mehefin 2024.

Mae ardaloedd chwarae plant yn gyfleuster pwysig ar gyfer ein cymuned leol, felly mae’n newyddion gwych fod y rhaglen adnewyddu nawr ar y gweill, gyda chynllun i nifer o barciau ailagor mewn pryd ar gyfer y gwyliau haf.

Gall cael mynediad at ardaloedd chwarae o ansawdd dda, yn agos at adref, wneud gwahaniaeth enfawr yn ein cymunedau.

Dyna pam rydym yn parhau i fuddsoddi mewn ardaloedd chwarae ledled y fwrdeistref sirol, i greu mannau diogel, hygyrch a llawn hwyl i blant eu mwynhau.

Cynghorydd Paul Davies, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

Chwilio A i Y