Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith clirio sylweddol ar y gweill ledled y fwrdeistref sirol o ganlyniad i effeithiau Storm Darragh

Mae gwaith clirio sylweddol ar y gweill ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn y difrod sylweddol a’r amhariad a achoswyd gan Storm Darragh dros y penwythnos.

Mae timau priffyrdd y cyngor allan ledled y fwrdeistref sirol, yn clirio malurion o lwybrau a phriffyrdd, a achoswyd gan goed wedi syrthio, gyda’r bwriad o glirio’r prif ffyrdd yn gyntaf ac yna yr heolydd a’r lonydd llai.

Mae toriad yn y trydan yn Llangynwyd, Betws a rhannau o Bencoed wedi effeithio ar lawer o dai yn y fwrdeistref sirol. Dywed y cwmnïau cyfleustodau fod y trydan wedi ei adfer yn ardal Betws, gyda Llangynwyd a Phencoed yn debygol o gael eu cyflenwad yn ôl yn nes ymlaen heddiw.

Gallwch wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am eich cyflenwad trydan ar fap byw cyflenwad trydan y Grid Cenedlaethol ar-lein. tra y gall unrhyw un sydd angen cymorth blaenoriaethol ffonio 0800 6783105.

Yn y cyfamser, mae prydau poeth yn rhad ac am ddim ar gael mewn canolfannau clyd ar gyfer preswylwyr cymunedau Betws a Llangynwyd, sydd wedi bod heb drydan o ganlyniad i’r storm.

Mae rhai ysgolion, y mae difrod y storm wedi effeithio arnynt, wedi cau neu wedi cau’n rhannol heddiw. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Ysgol Gyfun Porthcawl a Choleg Cymunedol y Dderwen (CCYD) - wedi cau’n rhannol oherwydd difrod i ran o do’r ysgol.
  • Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ac Ysgol Gynradd Betws wedi aros ar gau oherwydd toriad yn y trydan.

Gwnaethpwyd asesiadau o ysgolion eraill yn y fwrdeistref sirol, ac maent wedi cael eu cymeradwyo i ailagor.

Mae’r ysgolion sydd wedi’u heffeithio yn cysylltu’n uniongyrchol â rhieni a gofalwyr gyda mwy o wybodaeth, ac mae modd cadw llygaid ar y dudalen ysgolion ar gau ar wefan y cyngor am ddiweddariadau gan benaethiaid: https://www.bridgend.gov.uk/.../planned-school-closures/

Mae’r holl ganolfannau ailgylchu a fu ar gau dros dro yn ystod y storm ar agor fel arfer yn awr.

Hoffwn ddiolch o waelod calon i holl staff y cyngor, y timau a’r contractwyr am eu hymdrechion anferthol dros y penwythnos i sicrhau fod y prif ffyrdd ar agor i’r rhai oedd angen teithio, a bod eiddo a busnesau yn ddiogel.

Dyma un o’r digwyddiadau tywydd difrifol waethaf y mae’r fwrdeistref sirol wedi ei phrofi yn y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn hynod ddiolchgar i holl dimau y cyngor am eu hymrwymiad a’u hymdrechion diflino i sicrhau fod pawb yn ddiogel yn ein cymunedau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Davies, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd:

Am ragor o wybodaeth am sut mae'r cyngor yn ymdrin â thywydd garw, ewch i dudalennau tywydd y gaeaf yn www.bridgend.gov.uk.

Chwilio A i Y