Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith celf ‘amrywiaeth’ yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr

Mae canol tref Pen-y-bont ar Ogwr ar fin dod yn llwyfan i waith celf gwreiddiol, ysbrydoledig sy’n cael ei greu gan fyfyrwyr celf a dylunio o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr, o ganlyniad i gydweithrediad rhwng y coleg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd gwaith celf sy’n procio’r meddwl ledled Canolfan Siopa Rhiw, sy’n seiliedig ar ddehongliad myfyrwyr o ‘amrywiaeth’, yn cael ei arddangos ar fyrddau ar unedau gwag mewn ymgais i ddathlu gwahaniaethau, yn ogystal â gwneud y lleoliad yn groesawgar, yn ddiddorol ac yn gynhwysol.

Gyda chefnogaeth y Grant Cydlyniant Rhanbarthol, cynigiwyd y cyfle i’r myfyrwyr gan dîm Partneriaeth Diogelwch Cymunedol y cyngor a chyflwynodd y coleg y prosiect fel cystadleuaeth, gyda’r enillwyr, gan gynnwys y rhai a ddaeth yn gyntaf, ail a thrydydd, yn cael eu dewis i arddangos eu gwaith yn y dref.

Dywedodd Rachel Bell, Rheolwr Canolfan Siopa Rhiw: “Rydyn ni mor falch o fod yn rhan o’r prosiect anhygoel hwn.  Credwn y bydd y gymuned yn ei groesawu, yn cael effaith mor gadarnhaol ar ganol y dref, ac yn helpu i helpu i wneud i unedau gwag edrych yn fwy deniadol gyda neges mor gadarnhaol.”

Roedd Katie Kempson, a enillodd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth, yn bwriadu i’w delwedd ffotograffig gyfleu hanfod cydweithio, wrth i ddau ddawnsiwr o wahanol ethnigrwydd uno mewn perfformiad.  Dywedodd Katie: “Mae’r ddelwedd yn syml ond yn bwerus; mae’n cyfleu cynhesrwydd ac agosrwydd, gan bwysleisio nid yn unig amrywiaeth ond hefyd y cryfder a geir wrth weithio gyda’n gilydd mewn harmoni a chefnogi ei gilydd.”

Esboniodd enillydd arall, Amber Rowlands, sut y gwnaeth myfyrio ar ei hanabledd ei hun ysbrydoli ei gwaith.  Wrth ystyried ei chyflwr a sut mae salwch wedi newid ei hymddangosiad, “Fi yw fi o hyd, fi yw Amber o hyd”, meddai.  Roedd y beirniaid, gan gynnwys Huw David, cyn Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Neelo Farr a’r Cynghorydd Freya Bletsoe, Maer Tref Pen-y-bont ar Ogwr, “wrth eu bodd gyda’r stori bersonol y tu ôl i’r gwaith a’r amrywiaeth sy’n cael ei ddangos yn yr un person.”

Dywedodd Jessica Lancaster, Rheolwr y Celfyddydau Creadigol ac Addysg yn y coleg: “Mae mawredd gwaith celf y dysgwyr yn y prosiect hwn wedi’n cyfareddu. Mae dyfnder y dalent a’r creadigrwydd a ddangosir gan yr artistiaid ifanc hyn yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae’r cydweithio hwn yn fwy na dim ond arddangos eu gwaith anhygoel, ond mae’n dathlu eu potensial a dyfodol disglair celf a dylunio yn ein cymuned.”

Am brosiect gwych ar gynifer o lefelau! Mae cael mewnbwn artistig myfyrwyr o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr yn treiddio drwy’r dref, ac yn dyrchafu ei bywiogrwydd diwylliannol, yn fendigedig. Am syniad rhagorol gan dîm y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol!

Mae’r ddawn a ddangosir gan y myfyrwyr yn anhygoel. Mae hefyd yn deimladwy gweld sut mae rhai o'r myfyrwyr wedi caniatáu i’w nodweddion bregus eu hunain ddod i’r amlwg wrth greu eu gwaith.

Rwy’n siŵr y bydd yr arddangosfa’n dod yn destun trafod i ymwelwyr â’r dref, yn ogystal â hyrwyddo cynhwysiant a dathlu amrywiaeth yn ei holl ffurfiau.

Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai

Mae’r delweddau’n dangos y gwaith celf buddugol:

Katie Kempson, Amber Rowlands

Chwilio A i Y