Gwaith atgyweirio hanfodol wedi dechrau ar Ffordd Fynydd y Bwlch
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 15 Ionawr 2025
Mae gwaith atgyweirio brys i’r cwlfert ar ffordd A4061 Bwlch-y-Clawdd, Nantymoel, wedi dechrau’r wythnos hon er mwyn mynd i’r afael â’r difrod a achoswyd gan Storm Bert ym mis Tachwedd. Oherwydd yr angen am atgyweirio ar frys, mae contractwr arbenigol sydd eisoes yn gweithio i’r awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i ymgymryd â’r gwaith fel bod modd ei hwyluso.
Ym mis Tachwedd achoswyd trafferthion sylweddol gan Storm Bert, gan gynnwys cwlfert wedi dymchwel gan achosi i falurion ddisgyn ar yr A4061, gan beri i’r ffordd beidio â bod yn ddiogel. Arweiniodd y tirlithriad at gau’r ffordd dros dro, tra bu staff priffyrdd yn clirio’r ffordd a rhoi strwythurau amddiffynnol byr dymor yn eu lle er mwyn lliniaru rhagor o falurion rhag cwympo, yn ogystal â rheoli traffig er mwyn galluogi i’r ffordd gael ei hailagor.
Yn dilyn y storm, datgelodd gwerthusiad o’r gwaith cyweirio angenrheidiol bod angen arbenigwyr i gwblhau’r gwaith atgyweirio a sefydlogi’r llethr, a bod ei angen ar unwaith.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwneud cais er mwyn cwrdd â’r gost o £131,000 drwy ariannu gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o’r Cynllun Cymorth Ariannol Brys i gefnogi awdurdodau lleol yn dilyn y stormydd diweddar.
Gyda Chabinet y Cyngor yn ymwybodol o sut mae’r perygl ar Ffordd Fynydd y Bwlch yn cael ei ddelio ag o, mae gwaith wedi dechrau’r wythnos hon a bydd yn parhau am bedair wythnos, o 9am hyd 3.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener. Yn ystod yr amseroedd cau, bydd gyrwyr yn gallu teithio’n uniongyrchol rhwng Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf, ond nid i gyfeiriad Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr, er y bydd dargyfeiriadau yn eu lle.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Davies, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae’r gwaith presennol a wneir i’r A4061 Ffordd Bwlch-y-Clawdd, Nantymoel yn hanfodol er mwyn amddiffyn y cyhoedd nawr ac yn y dyfodol. Drwy’r buddsoddiad hwn rydym yn gobeithio diogelu’r ardal a’i gwneud yn ddiogel fel ei bod yn gallu gwrthsefyll unrhyw stormydd yn y dyfodol.
“Rydym yn eithriadol o ffodus ein bod yn gallu ymateb mor gyflym i’r sefyllfa beryglus hon. Mae ein contractwr yn brofiadol o ran gweithio mewn amgylchedd lle mae llethr serth mynydd ac mae ganddo’r arbenigedd i wneud y gwaith cyweirio, sydd newydd ddechrau’r wythnos hon.
“Yn ystod yr wythnosau sydd i ddod, rydym yn bwriadu lleihau unrhyw amhariad ac rwy’n sicr y bydd pobl yn deall yr angen am y gwaith atgyweirio er mwyn amddiffyn y cyhoedd. Yn y cyfamser, hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd.”