Gwaith ar gyfer llwybr teithio llesol Ynysawdre wedi’i gwblhau
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 19 Ebrill 2024
Gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llwybrau teithio llesol yng Nghymru, yn ddiweddar mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cwblhau llwybr teithio llesol newydd o Ynysawdre i Goleg Cymunedol y Dderwen, ger Pen-y-bont ar Ogwr (mewn coch ar y map).
Mae’r llwybr 440m o hyd yn rhedeg drwy ardal o dir a arferai fod yn goediog ac wedi tyfu’n wyllt, yn ffinio ag ochr ogleddol Ysgol Gynradd Brynmenyn ac ochr ddwyreiniol Coleg Cymunedol y Dderwen. Mae’n cysylltu dau bwynt sydd eisoes yn rhan o’r rhwydwaith teithio llesol, yn ogystal â darparu man cychwyn ar gyfer llwybr arfaethedig, a fydd yn parhau tua dwyrain Afon Ogwr Fawr.
Agorodd y llwybr ddechrau mis Ebrill, gyda DT Contracting yn gweithio dros gyfnod o fisoedd, o fis Hydref 2023 tan fis Mawrth 2024, i gwblhau’r prosiect 500k.
Mae’r llwybr 2.5m o led ar gael i feicwyr a cherddwyr ei fwynhau, gan wneud teithiau llesol yn fwy diogel, yn fwy hygyrch ac yn gynaliadwy ar gyfer preswylwyr ledled y fwrdeistref sirol. Mae’r cynlluniau pellach ar gyfer y llwybr yn cynnwys plannu blodau gwyllt ar bwys y llwybr maes o law.
Bydd llwybrau teithio llesol hygyrch yn ein helpu i gyrraedd ein targed sero net, yn cynnig dull rhatach o deithio i breswylwyr, ac yn darparu ffordd o deithio a fydd yn hybu llesiant meddyliol a chorfforol.
Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd