Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith adnewyddu cynaliadwy gwerth £200k i Bwll Nofio Pencoed

Mae ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chwaraeon Cymru wedi cefnogi'r gwaith adnewyddu helaeth i'r cyfleusterau newid ym Mhwll Nofio Pencoed Halo gan fod o fudd i'r gymuned leol ac ehangach.

Mae'r buddsoddiad £200k, sy'n deillio o'r bartneriaeth rhwng Halo, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chwaraeon Cymru, wedi darparu ciwbiclau, cawodydd ac unedau ymolchi.  Mae'r gwelliannau i'r ystafell newid hefyd yn cynnwys amgylchedd goleuach, ynghyd â goleuadau LED a theils to sy'n amgylcheddol gyfeillgar - y cyfan yn adlewyrchu ymrwymiad Halo i gynaliadwyedd a bodlonrwydd cwsmeriaid.

Dywedodd Simon Gwynne, Rheolwr Partneriaeth Halo: "Mae'r cyfleusterau ym Mhwll Nofio Pencoed Halo yn rhai mae'r gymuned leol yn eu caru a'u defnyddio'n aml, ond mae'r ystafelloedd newid wedi bod yn edrych yn arbennig o dreuliedig.

"Bydd yr holl ymwelwyr i'r adeilad yn awr yn cael budd - o bobl sy'n mynychu sesiynau nofio i'r teulu, grwpiau sy'n rhan o'r dosbarthiadau ffitrwydd yn y dŵr, rhai sy'n cymryd rhan mewn nofio cymdeithasol a'r sesiynau nofio i ferched yn unig, y 800 a mwy o blant sydd wedi cofrestru ar gyfer gwersi nofio ac ymlaen i bobl sy'n ymarfer yn y gampfa."

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: "Rydym mor ddiolchgar o gael cefnogaeth gan Chwaraeon Cymru, sy'n galluogi ein partneriaid yn Halo i ddarparu'r cyfleusterau gorau posib ar gyfer y preswylwyr hynny sy'n defnyddio Pwll Pencoed.  

"Mae'r gwelliannau yr oedd gwirioneddol eu hangen wedi trawsnewid yr ystafelloedd newid, gan gynnig profiad o safon uchel i'r gymuned; bydd buddion y buddsoddiad hwn yn parhau am amser hir i ddod."

Am wybodaeth bellach ynghylch canolfannau Halo ar draws y fwrdeistref sirol ewch draw i'r wefan.

Lluniau: Simon Gwynne, Rheolwr Partneriaeth Hamdden Halo, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd John Spanswick, y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Jane Gebbie, y Cynghorydd Melanie Evans, y Cynghorydd Richard Williams.

Chwilio A i Y