Gwaith adfywio i ddarparu cysylltiadau newydd ar gyfer croesfannau i gerddwyr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 03 Ionawr 2024
Bydd y rhan nesaf o adfywiad parhaus Porthcawl yn dechrau’r wythnos nesaf, drwy osod y groesfan newydd, a’r gyntaf o nifer ohonynt.
Aldi sy’n ymgymryd â’r gwaith ar y croesfannau, fel rhan o becyn o welliannau i briffyrdd, mannau cerdded a llwybrau beics a drefnwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth iddynt drafod rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer siop fwyd newydd ger Llyn Halen.
Bydd yn cael ei adeiladu yn y Portway, fel rhan o ymdrechion y cyngor i sicrhau y bydd siopwyr ac ymwelwyr yn gallu symud yn rhwydd gan fwynhau mynediad cyflym a chyfleus rhwng Llyn Halen, Promenâd y Dwyrain a chanol y dref.
Gan y bydd y gwaith yn gofyn i gau’r briffordd, rydym wedi ei amseru’n ofalus er mwyn sicrhau y cynhelir y gwaith ar ôl cyfnod masnachu’r Nadolig.
Bydd y groesfan yn cael ei rheoli gan arwyddion ac yn ddefnyddiol i’r rheiny sydd eisiau cael mynediad at ddatblygiadau adfywio newydd, a rhai eraill sydd ar y gweill, megis y marina newydd, y parc glan y môr arfaethedig, neu’r siop fwyd Aldi newydd.
Ynghyd ag ail groesfan a fydd yn cael ei gosod ar Dock Street fel rhan o gynllun ehangu arfaethedig, bydd y groesfan newydd yn darparu mynediad cyfleus at y gyfnewidfa cludiant Metrolink newydd.
Mae sicrhau bod modd i bobl deithio’n rhydd ac yn rhwydd yn rhan allweddol o’n cynlluniau ar gyfer Porthcawl.
Bydd gosod y groesfan newydd a reolir gan arwyddion ar gyfer cerddwyr yn rhan hanfodol o gynnal cysylltiadau agos rhwng canol y dref a’r datblygiadau newydd sydd ar y gweill fel rhan o’n gwaith adfywio parhaus.
Er y bydd rhywfaint o darfu’n anochel wrth adeiladu’r groesfan, bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i darfu cyn lleied â phosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio: