Gwahoddiad i drigolion i ddigwyddiad cyngor ‘Cymorth i Aelwydydd’ Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Iau 02 Mawrth 2023
Estynnir gwahoddiad i drigolion ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddigwyddiad ‘Cymorth i Aelwydydd’ AM DDIM fydd yn cynnig cefnogaeth a chyngor ar fynd i’r afael â’r cynnydd mewn costau byw i bobl o bob cwr o’r fwrdeistref sirol.
Mae’r digwyddiad ‘Cymorth i Aelwydydd’ a fydd yn cael ei gynnal ar ddydd Iau 16 Mawrth rhwng 10am a 2pm ym Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei drefnu gan Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd digon o gyngor ar gael a fydd yn rhoi amrywiaeth o wahanol fathau o gymorth i drigolion lleol megis:
- Cymorth gyda biliau
- Cyngor defnyddiol ar y bargeinion ynni gorau
- Awgrymiadau ar sut i arbed arian ar gyfer bwyd
- Cyngor ar wneud cais am fudd-daliadau ychwanegol
- Ffyrdd o ddefnyddio dŵr yn effeithiol (Water Fit)
Bydd y fenter eang hon yn cynnwys amrywiaeth o sefydliadau allweddol yn gweithio mewn partneriaeth â thîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr y cyngor megis Cyngor ar Bopeth, Caffi Trwsio Pen-y-bont ar Ogwr, Dŵr Cymru, y Tîm Gofal Plant a Phantrïau Cymunedol Baobab Bach gan alluogi trigolion i gael yr union fath o gymorth sydd ei angen arnynt. Bydd y rhai sy’n bresennol hefyd yn cael eitemau arbed costau am ddim.
Mae’r digwyddiad hwn yn helpu i bwysleisio ymrwymiad y cyngor i helpu trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.
Bydd yna nifer o sefydliadau’n bresennol yn y digwyddiad hwn, felly gall pawb gael cyngor wedi’i deilwra’n arbennig i’w sefyllfa nhw.
Rydym yn sylweddoli y bydd profiad pawb o’r sefyllfa bresennol gyda chostau byw yn wahanol a gyda chyngor yn ymdrin â chymaint o feysydd, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfan.
Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol