Gwahodd y cyhoedd i ddweud eu dweud ar gynigion terfynol y Pafiliwn Mawr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 04 Hydref 2023
Mae’r gwaith o ail ddatblygu theatr Porthcawl, y Pafiliwn Mawr, wedi symud gam yn nes, ac fe wahoddir trigolion lleol i roi eu barn derfynol ar y cynlluniau arfaethedig cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r awdurdodau lleol ar gyfer caniatâd cynllunio ffurfiol.
Dyfarnwyd £18 miliwn o gyllid i Gyngor Sir Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr a’i bartneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen gan Lywodraeth y DU, yn dilyn cais llwyddiannus gan y cyngor gan gydweithio’n agos gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.
Mae ailddatblygu’r Pafiliwn Mawr yn cynrychioli cyfle gwych i ddiogelu’r adeilad eiconig hwn am flynyddoedd lawer i ddod, ac yn sicrhau ei fod yn cadw ei swyddogaeth fel lleoliad celfyddydol a diwylliannol blaenllaw.
Mae’r gwaith ymgynghorol cyn ymgeisio yn rhan annatod o’r gwaith ac, yn ystod datblygiad dyluniad y prosiect, treuliwyd llawer o amser yn ymgysylltu â chyrff statudol ac anstatudol, cynghorwyr arbenigol, grwpiau cymunedol a’r cyhoedd er mwyn creu cynllun sydd wedi’u lunio gan adborth eang.
Cynhaliwyd yr ymgysylltiad diweddaraf gyda’r gymuned rhwng y 3 a’r 16 o Orffennaf 2023, a chafwyd ymateb sylweddol, gan ddangos gwerth cymdeithasol a phensaernïol yr adeilad. Cafwyd adborth pwysig yn y sesiynau hynny, gan arddangos safbwyntiau cadarnhaol, adeiladol a phryderus y dylid eu hystyried a’u hymgorffori o fewn y cynlluniau terfynol.
Ers i’r digwyddiadau hyn ddod i ben, mae’r adborth wedi cael ei asesu gan ymateb iddo, a gwnaed newidiadau i’r cynllun mewn meysydd allweddol, i liniaru pryderon ac i ymgorffori argymhellion sy’n ychwanegu gwerth pellach.
Mae’r cyfnod statudol ymgynghori cyn ymgeisio yn gyfle i gyflwyno’r cynllun diwygiedig yn ôl i’r gymuned, rhanddeiliaid ac ymgynghorwyr, gan gynnwys mynediad i’r holl wybodaeth o fewn y cais cynllunio draft.
Mae’r cynlluniau terfynol ar gyfer y Pafiliwn Mawr bron yn barod. Rydym wedi sicrhau, hyd at eithaf ein gallu, bod cymaint o safbwyntiau cyhoeddus â phosib wedi cael eu hystyried a’u hymgorffori o fewn y dyluniadau.
Rydym yn ymwybodol o werth yr adeilad hwn i’r bobl leol ac ymwelwyr, a dyna pam ein bod wedi annog unrhyw adborth trwy gydol y broses. Cymerwch amser i edrych ar y cynigion a’r cynlluniau a rhannwch eich safbwyntiau a’ch adborth.
Rydym ni’n awyddus i weithio gyda’r gymuned i helpu i greu lleoliad celfyddydol a diwylliannol sy’n addas ar gyfer pob cenhedlaeth, sydd yn cynnig amryw o fuddion am flynyddoedd lawer i ddod.
Cynghorydd Rhys Goode, Aelod o’r Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Rydym yn ddiolchgar i’r trigolion a’r sefydliadau lleol sydd wedi cymryd rhan yn ein digwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus fis Gorffennaf. Roedd y sylwadau a’r adborth a gawsom yn ddefnyddiol iawn ac yn sicrhau bod ein penseiri penodedig, Purcell, yn gallu gwneud newidiadau i’r dyluniadau blaenorol. Gobeithiwn y bydd cymuned Porthcawl, a defnyddwyr y Pafiliwn Mawr yn cymryd amser i adolygu’r cynlluniau diweddaraf a chael lleisio’u barn ar ddyfodol eu theatr leol.”
Gellir dod o hyd i’r cynnig terfynol ar lein, ar Wefan Awen, a chymryd golwg ar y cais, y cynlluniau a’r dogfennau ategol.
Bydd yn rhaid lleisio’ch adborth a’ch sylwadau erbyn dyddiad cau’r broses gynllunio sef Dydd Mawrth 31 Hydref, 2023.